Gethin Jenkins
Y prop Gethin Jenkins fydd capten Cymru ar gyfer y gêm trydydd safle yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd.

Fe fydd yn cymryd lle’r blaenasgellwr, Sam Warburton, sydd wedi ei wahardd am dair wythnos ar ôl ei garden goch yn y rownd gyn derfynol.

Ryan Jones sy’n cymryd lle Warburton yn y rheng ôl – fe fydd yn chwarae’n wythwr a Toby Faletau, un o chwaraewyr gorau’r bencampwriaeth, yn symud i rif 7.

Doedd dim dewis gydag un newid arall, wrth i Paul James barhau’n brop pen tynn ar ôl i Adam Jones gael ei anafu’n gynnar ddydd Sadwrn.

Fe fydd Bradley Davies hefyd yn parhau yn yr ail reng ar ôl cymryd lle Alun Wyn Jones tua diwedd y gêm gyn derfynol.

Roedd hynny, meddai’r hyfforddwr Warren Gatland, oherwydd fod Alun Wyn wedi “rhedeg ei hun i’r pen” yn yr ymdrech honno.

Aros gyda’r tîm llwyddiannus

Fe ddywedodd Gatland ei fod eisiau aros gyda’r chwaraewyr oedd wedi perfformio mor dda yn ystod y Cwpan. Mae hynny’n golygu bod James Hook yn aros yn faswr, er gwaetha’i gêm sigledig yn erbyn Ffrainc.

“R’yn ni wedi dod ymhell ac wedi rhoi cyfres o berfformiadau y gall y genedl fod yn falch ohonyn nhw ac r’yn ni eisiau gwneud yn siŵr fod y llyfrau hanes yn dangos yr hyn y gwyddon ni y gallwn  ei wneud – a dim ond trwy guro Awstralia nos Wener y gallwn ni wneud hynny.”

Gyda Chymru hefyd yn chwarae Awstralia yng Nghaerdydd ddechrau Rhagfyr, fe ddywedodd ei fod eisiau i’r gêm honno fod yn achlysur dathlu.

Ac fe allai fod yn achlysur i gofio hefyd – mae’r asgellwr Shane Williams wedi awgrymu y gallai ohirio ei ymddeoliad rhyngwladol er mwyn cynnwys honno.

Tîm Cymru

Olwyr

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Shane Williams.

Haneri

James Hook, Mike Phillips.

Blaenwyr

Gethin Jenkins (c), Huw Bennett, Paul James, Bradley Davies, Luke Charteris, Dan Lydiate, Toby Faletau, Ryan Jones