Owain Schiavone sy’n trafod yr angen i stopio siarad am y siom, ond yn hytrach i’w ddefnyddio i danio’r dyfodol.

Does dim byd sicrach….mae chwaraeon yn gallu bod yn greulon.

Wedi blasu sawl siom ym myd y campau dros y blynyddoedd – Cymru v Rwsia yn 2003 a’r Scarlets v Caerlŷr 2002 ymysg y mwyaf poenus o hyd – ro’n i’n ymwybodol iawn o hynny cyn y penwythnos.

Er hynny, fel pob Cymro arall dwi’n siŵr, bydd siom a phoen natur colled Cymru fore Sadwrn yn byw’n hir yn y cof.

Penderfyniad dadleuol

Fel gydag unrhyw gêm ddadleuol, roedd disgwyl i’r cyfryngau drafod amgylchiadau’r canlyniad yn helaeth, ac mae hynny wedi digwydd, ond dwi’n siomedig fod y drafodaeth yn dal i fod mor negyddol dros ddeuddydd ar ôl y digwyddiad.

Oedd, roedd penderfyniad y dyfarnwr yn un dadleuol, ond nid fi oedd yr unig un oedd yn ofni’r gwaethaf wrth weld y dacl ac yna gafodd ryddhad byrhoedlog o glywed Gwyn Jones yn dweud cyhoeddi mai melyn oedd lliw’r garden.

Dwi ddim yn meddwl am eiliad fod Sam Warburton wedi ceisio troseddu – roedd gwahaniaeth maint a chryfder y ddau chwaraewr yn ffactor fawr yn yr hyn ddigwyddodd. Yn anffodus, wrth i’r Cymro sylweddoli beth oedd yn digwydd fe geisiodd ryddhau’r  Ffrancwr ac yn anffodus fe wnaeth hynny i bethau edrych yn waeth – sod’s law.

Mae sawl un llawer mwy gwybodus na fi wedi nodi mai’r anghysondeb rhwng dyfarnwyr ydy’r broblem, ac o weld rhai sefyllfaoedd tebyg yn ystod y bencampwriaeth rhaid cytuno a hynny, ond dyna ydy chwaraeon a heb ddehongliad dyfarnwyr fe fyddai’r gêm yn llawer mwy diflas.

Cyfle i brofi pwynt

Y peth mwyaf siomedig ydy sylweddoli y dylai Cymru fod wedi ennill beth bynnag, a dwi’n siŵr mai dyna yw’r peth mwyaf poenus i’r chwaraewyr orfod goddef.

Eto, dyna greulondeb chwaraeon – nid y tîm gorau sy’n ennill bob amser (jyst gofynnwch i Seland Newydd ar sail y ddau Gwpan y byd diwethaf) – ond mae’n rhan o’r hyn sy’n gwneud byd y campau mor gyffrous.

Rhywbeth arall sy’n wych am chwaraeon, yw bod yna wastad gêm arall ar y gorwel ac erbyn hyn fe ddylen ni oll fod yn troi ein sylw tuag at gêm nesaf Cymru yn erbyn Awstralia.

Nid dyma’r gêm roedd Cymru am ei chwarae’r penwythnos nesaf, ond dwi’n weddol sicr y byddan nhw’n benderfynol o’i hennill erbyn hyn a dangos i bawb beth sy’n cael ei golli yn y ffeinal.

Hen ben ar ysgwyddau ifanc

Mae’n anodd iawn anghofio am y siom, ac efallai y dylid ei gofio er mwyn gallu ei ddefnyddio fel arf yn y dyfodol.

Bydd y tîm, a Sam Warburton yn arbennig, yn gryfach o’r profiad yma.

Mae proffesiynoldeb ac aeddfedrwydd Warburton wedi creu argraff ar bawb yn ystod y bencampwriaeth. Mae ei arweiniad trwy esiampl ar y cae, ac oddi-arno wedi bod yn rhyfeddol i ddweud y lleiaf.

Yr hyn sydd wedi creu’r mwyaf o argraff arnaf i yw’r modd y mae Warburton wedi ymddwyn ers ei dacl anffodus ar Vincent Clerc.

Fe dderbyniodd y capten ei gosb heb gŵyn. Er bod y siom yn amlwg ar ei wyneb wrth iddo eistedd wrth ochr y cae, doedd dim dagrau na hunan dosturi.

Ers y gêm, nid yw’r capten wedi dangos unrhyw ddicter at y dyfarnwr na’r gwrthwynebwyr a gyfrannodd at y penderfyniad. Doedd dim grwgnach chwaith am y tair wythnos o waharddiad a gafodd gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ddoe – er na fydd modd i Warburton chwarae, fe bwysleisiodd fod ei ffocws yn gyfan gwbl ar y gêm am y trydydd safle erbyn hyn.

Mae aeddfedrwydd gŵr mor ifanc wedi bod yn ysbrydoliaeth.

Dyfodol disglair

Mae ymddygiad Warburton yn esiampl o bob chwaraewr rygbi ifanc a sawl un hŷn…heb sôn am ganran fawr o beldroedwyr proffesiynol.  Mae hefyd wedi sicrhau ei statws fel capten ar ei wlad am flynyddoedd  i ddod dwi’n amau.

Dan arweiniad y capten ifanc fe ddylai fod gan dîm rygbi Cymru flynyddoedd cyffrous o’u blaen, ond mae’n rhaid i’r garfan ifanc ymateb yn gadarnhaol i’r siom maent wedi’i brofi.

Dyna sy’n gwneud y gêm ddydd Gwener mor bwysig yn fy marn i – mae’n gyfle i weld gwir gymeriad y tîm addawol yma. Ar hyn o bryd, mae’r Cymry’n gadael Cwpan y Byd gydag edmygedd y byd rygbi, ac mae’n bwysig eu bod yn gadael ar y nodyn uchaf posib gan sicrhau’r trydydd safle.

Tydi trafod a chwyno am y gorffennol ddim yn mynd i roi Cymru yn y ffeinal Cwpan y Byd 2011, ond wrth edrych i’r dyfodol a thrafod llwyddiant annisgwyl y tîm dros yr wythnosau diwethaf, gobeithio y gallwn edrych ymlaen at weld y tîm yn ffeinal Cwpan y Byd 2015.