Mae Neil Jenkins, hyfforddwr cicio tîm rygbi Cymru, yn dweud bod Warren Gatland yn “berson anhygoel”, wrth i’w gyfnod yn brif hyfforddwr ddirwyn i ben.
Fe fydd y gŵr o Seland Newydd yn mynd adref ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd, ar ôl deuddeg mlynedd yn y brif swydd.
Gyda Chymru’n herio Ffrainc yn rownd yr wyth olaf ddydd Sul (Hydref 20), mae’n gwybod fod ganddo fe uchafswm o dair gêm yn weddill o’i gyfnod wrth y llyw.
Mae Neil Jenkins ymhlith y rhai sydd wedi bod wrth ei ochr bob cam o’r ffordd.
“Mae ei record yn siarad drosti ei hun o ran y canlyniadau, y llwyddiant, undod y tîm a’r garfan a’r staff,” meddai’r cyn-faswr.
“Nid yn unig mae Gats yn hyfforddwr rygbi anhygoel, ond mae e hefyd yn berson anhygoel.
“Mae e’n dod â chymaint i’r amgylchfyd hwn, mae wir yn anhygoel.
“Byddai’n ofnadwy o drist yn ei weld e’n mynd, yn amlwg, ond byddai’n dda pe baen ni’n gallu rhoi pythefnos arall i ni ein hunain yn Japan, iddo fe a phawb arall sydd ynghlwm.
“Mae Gats bob amser yr un fath, dim ots pwy rydyn ni’n eu chwarae o un wythnos i’r llall.
“Mae e’n ddyn rygbi deallus iawn ac yn adnabod y gêm drwyddi drwy, a byddwn ni’n barod ar gyfer dydd Sull.
“Mae e wedi bod yma ers deuddeg mlynedd a beth bynnag mae e’n ei wneud, mae pawb yn edrych i fyny ato fe ac yn deall pam ei fod e’n gwneud beth mae e’n ei wneud.
“Mae e’n ddeallus iawn, yn gwneud pethau am reswm arbennig ac mae yna gynllun y tu ôl i bethau bob amser.”