Mae Cymru’n obeithiol y bydd Dan Biggar a Jonathan Davies yn holliach erbyn gornest debygol yn erbyn Ffrainc.

Dyw’r ddau chwaraewr ddim ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Wrwgwai ddydd Sul (Hydref 13), lle byddai buddugoliaeth yn sicrhau mai Ffrainc fyddai Cymru yn wynebu yn rownd yr wyth olaf.

Mae gan Dan Biggar anaf i’w ben tra bod Jonathan Davies efo anaf i’w ben glin.

Dywed Warren Gatland: “Rydym eisiau rhoi saib i Liam Williams, ac mae gan Jonathan Davies anaf i’w ben glin tra bod Dan Biggar hefyd wedi cael anaf.”