Mae un o hyfforddwyr tîm rygbi Cymru wedi addo “brwydr dda” yn erbyn Awstralia’r penwythnos hwn.

Bydd y ddwy wlad yn mynd yn benben â’n gilydd ar dydd Sul (Medi 29), ac enillydd y gêm hon fydd mwy na thebyg yn mynd i frig eu grŵp – Grŵp D.

Ar ôl colli iddyn nhw 13 gwaith yn olynol, llwyddodd Cymru i guro Awstralia deg fis yn ôl, ac maen nhw’n siŵr o geisio efelychu hynny ymhen rhai diwrnodau.

“Mae pawb yn cydnabod bod y gêm yma’n un fawr,” meddai Robin McBryde. “Rydym ni’n gwybod ein bod yn medru eu curo.

“Mae’r gêm yma yn un hollol wahanol, ac mae llawer yn fwy yn y fantol. Mae gwybod y gallwn eu curo yn ein calonogi. Ond mae’r sefyllfa yma yn un wahanol. Mae’n mynd i fod yn frwydr dda.”

Paratoi at y gêm

Mae tîm Cymru’n parhau i baratoi ar gyfer gêm y penwythnos, ac roedd Hadleigh Parkes a Ken Owens yn ymarfer a gweddill y tîm heddiw – er i’r ddau gael eu taclo’n wael dridiau yn ôl.

Mae Lock Bradley Davies – sydd wedi camu i’r adwy wedi i Cory Hill gael ei anafu – wedi cyrraedd Japan, ac roedd yntau hefyd yn ymarfer â’r tîm.