Mae ymosodwr Cymru, Tom Lawrence, wedi cael ei gyhuddo o yrru o dan ddylanwad alcohol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar.
Cafodd Tom Lawrence, 25, ynghyd â’i gyd-chwaraewr yn Derby County, Mason Bennet, 23, eu harestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Range Rover Sport a Mercedes.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A6 ger Allestree, Derby, ychydig cyn hanner nos ddydd Mawrth (Medi 24).
Mae disgwyl i’r ddau ymddangos gerbron yr ynadon yn Derby ar Hydref 15.