Fe fydd profiad yn allweddol i dîm Cymru yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, yn ôl Shaun Edwards.

Bydd eu hymgyrch yn dechrau ddydd Llun (Medi 23), wrth iddyn nhw herio Georgia yn ninas Toyota yn eu gêm gyntaf – “penllanw dwy flynedd o waith”, meddai’r is-hyfforddwr.

28 mlwydd a 331 o ddiwrnodau fydd oedran cyfartalog y tîm.

“Rydyn ni’n fwy profiadol, yn sicr,” meddai.

“Maen nhw’n dweud wrtha i mai hwn yw’r pymtheg mwyaf profiadol fu gyda ni yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

“Edrychwch yn ôl i 2003 – yr unig dîm o hemisffer y gogledd i ennill Cwpan y Byd, yn amlwg, yw Lloegr.

“Roedd ganddyn nhw dîm profiadol – ychydig o fois dros 30.

“Dw i ddim yn credu bod hynny’n gwneud niwed i chi.”