Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cadarnhau ei fod yn disgwyl bod heb Adam Beard a Cory Hill ar gyfer gêm gyntaf Cwpan y Byd yn erbyn Georgia.

Mae Adam Beard wedi cael tynnu ei bendics, tra bod Cory Hill yn gwella o anaf i’w goes.

Dydy Adam Beard ddim wedi teithio gyda gweddill y garfan, ond mae disgwyl iddo hedfan i Japan yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Y disgwyl yw y bydd Cory Hill yn dychwelyd mewn da bryd ar gyfer yr ail gêm yn erbyn Awstralia ar Fedi 29.

“Ry’n ni wedi cael ambell i anaf, ac mae yna bryder ar hyn o bryd o ran y chwaraewyr ail reng,” meddai Warren Gatland yn ei gynhadledd gyntaf gerbron y wasg yn Japan.

“Mae [Adam Beard] yn gobeithio dod allan [i Japan] ddydd Iau.

“Mae’n debyg na fydd e ar gael i’w ddewis ar gyfer y gêm yn erbyn Georgia, ond ry’n ni’n obeithio – ac mae’r meddygon yn hyderus – y bydd e ar gael i’w ddewis ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia.”

Y disgwyl yw y bydd Jake Ball yn ymuno â’r capten Alun Wyn Jones yn erbyn Georgia, ac Aaron Shingler ar y fainc.

Yn y cyfamser, mae’r maswr Rhys Patchell wedi cwblhau’r asesiadau cyfergyd, ac mae disgwyl iddo fe fod yn holliach ar gyfer y gystadleuaeth.