Cafwyd perfformiad arwrol gan Gymru
Cwpan Rygbi'r Byd
yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd ond byddant yn difaru methu gymaint o giciau at y pyst ac yn siomedig â phenderfyniad Alain Rolland i anfon y capten, Sam Warburton o’r cae ar ôl colli o 9 pwynt i 8.
Yn dilyn dechrau bratiog i’r gêm yn Eden Park, Auckland, Cymru oedd y tîm cyntaf i ddechrau rheoli’r chwarae. A chawsant eu gwobrwyo gyda thri phwynt o droed James Hook yn dilyn trosedd yn y ryc gan gapten Ffrainc, Thierry Dusautoir wedi 8 munud.
Ond daeth newyddion drwg i Gymru yn fuan wedyn wrth i’r prop Adam Jones orfod gadael y cae gydag anaf. Ymunodd Paul James â’r pac ac o fewn dau funud roedd Cymru wedi ennill cic gosb am drosedd honedig gan Ffrainc yn y sgrym. Cyfle arall i Hook anelu at y pyst felly ond llithrodd y maswr wrth daro’r bêl a methu’r gic a fyddai wedi rhoi chwe phwynt o fantais i’r Cymry.
Dim ond un tîm oedd ynddi ar hyn o bryd ac roedd pethau yn edrych yn addawol pan fylchodd Jamie Roberts mor hawdd wedi 16 munud. Ond ddaeth dim o’r cyfle a dau funud yn ddiweddarach daeth y digwyddiad a newidiodd y gêm.
Cododd Warburton Clerc, yr asgellwr bach, ond methodd â’i yrru i’r llawr yn ddiogel. Tacl anghyfreithlon oedd yn haeddu cerdyn melyn ond roedd pawb mewn sioc pan aeth Alain Rolland, y Gwyddel â gwreiddiau Ffrengig, i’w boced i estyn cerdyn coch i gapten Cymru.
Ddau funud yn ddiweddarach roedd Ffrainc yn gyfartal diolch i gic gosb lwyddiannus Morgan Parra. Daeth Ffrainc fwyfwy mewn i’r gêm wedyn a chawsant gyfnod da o bwyso wrth linell gais Cymru. Ond amddiffynnodd Cymru’n ddewr ac o dipyn i beth daeth cic gosb arall a chyfle arall i Hook ond methu oedd hanes y maswr unwaith eto.
Ond cadwodd Cymru eu pennau yn uchel a bylchodd Roberts yn effeithiol unwaith eto, ond unwaith eto ddaeth dim ohoni. Yna, gyda 6 munud o’r hanner ar ôl symudodd Ffrainc ar y blaen am y tro cyntaf. Trosedd gan Dan Lydiate a Parra yn trosi’r tri phwynt.
Daeth un cyfle arall i Gymru cyn hanner amser, gwaith da gan Toby Faletau yn ennill tir a chreu cyfle i Hook geisio am gôl adlam, ond ymdrech wael iawn oedd hi. Pedwar dyn ar ddeg Cymru dal yn y gêm ar yr egwyl felly ond cyfleoedd wedi’u gwastraffu gan Hook.
Llwyddodd Parra i ymestyn mantais y Ffrancwyr wedi 10 munud o’r ail hanner. Cic gosb arall i Ffrainc wedi i bac Cymru dynnu sgarmes rydd i’r llawr a Parra yn ei gwneud hi’n 9-3.
Roedd talcen caled yn wynebu Cymru yn awr ond wedi 58 munud cafwyd eiliad o athrylith gan Mike Phillips wrth i’r mewnwr dorri’n rhydd o fon y ryc, gwthio Pascal Pape o’r neilltu a chroesi’r llinell i sgorio cais unigol gwych. 8-9 yn awr a chyfle i’r eilydd, Stephen Jones roi Cymru ar y blaen. Ond tarodd y gic yn erbyn y postyn a dim ond 20 munud ar ôl i’r Cymry dewr achub y gêm.
Yn fuan wedi hynny cafodd Jones gyfle am gôl adlam ond gwnaeth draed moch llwyr ohoni. Roedd hi’n ymddangos fod gan y maswr gyfle haws am gôl adlam ddeg munud yn ddiweddarach ond penderfynu rhedeg â’r bêl a wnaeth Jones cyn ei tharo ymlaen. Tybed a oedd ei fethiant cynharach yn chwarae ar ei feddwl o hyd?
Ond daeth un cyfle arall i Gymru gyda chwe munud yn weddill, cic gosb ddadleuol ar y llinell hanner. Camodd Leigh Halfpenny i gymryd y gic hir ond methodd o fodfeddi yn unig. Artaith i Gymru a dihangfa i Ffrainc.
Cafodd Cymru ddigon o’r bêl yn y pum munud olaf hefyd ond roedd y pedwar dyn ar ddeg wedi ymlâdd ac roedd amddiffyn y Ffrancwyr rhy gryf, a phan ddwynodd Ffrainc y bêl funud wedi’r wyth deg dim ond un lle yr oedd Dimitri Yachvili yn ei rhoi hi, yn yr eisteddle er mwyn cipio buddugoliaeth o 9-8 i’r Les Bleus.