Fe fydd Rhys Patchell, maswr Cymru, yn holliach ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd er ei fod e wedi methu asesiad cyfergyd wrth i Gymru golli o 19-10 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Medi 7), meddai Warren Gatland.
Dyma’r trydydd tro i’r maswr gael cyfergyd eleni.
Fe fu’n rhaid iddo fe adael y cae ar ôl cael ei daro wrth geisio taclo Rhys Patchell cyn i Iwerddon sgorio’u cais cyntaf.
Fe fydd e’n cael asesiad pellach dros y dyddiau nesaf, cyn i Gymru hedfan i Japan ddydd Mercher.
Dim ond Gareth Anscombe, sy’n gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin, a Dan Biggar sydd gan Gymru yn safle’r maswr.
“Bydd e’n iawn erbyn hynny,” meddai Warren Gatland wrth drafod y daith i Japan.
“Mae’n ymddangos ei fod e’n iawn yn yr ystafell newid.
“Bydd rhaid iddo fe gael ei asesu dros y dyddiau nesaf.
“Fe wnawn ni siarad â’r meddygon am hyn a gweld sut aiff e dros y dyddiau i ddod.”
Blwyddyn anodd
Daw’r ergyd ddiweddaraf i Rhys Patchell ar ôl cael cyfergyd ddwywaith o’r blaen eleni, yn ogystal â rhwygo llinyn y gâr.
Mae’r chwaraewr 26 oed wedi chwarae’n ddigon da yn y gemau paratoadol, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n holliach i wynebu Georgia ar Fedi 23.