Matthew Rees
Mae capten Cymru a bachwr y Scarlets a’r Llewod Matthew Rees yn obeithiol o ddychwelyd i’r cae rygbi erbyn diwedd y mis.
Bu’n rhaid i’r bachwr dynnu allan o garfan Cymru i Gwpan Rygbi’r Byd oherwydd anaf i’w wddw a oedd angen llawdriniaeth i’w wella.
“Roedd yn benderfyniad anodd i dderbyn y llawdriniaeth” meddai Matthew Rees wrth wefan cynghrair RaboPro12.
“Mae bod yn gapten a gorfod tynnu nôl o Gwpan y Byd yn benderfyniad enfawr, ond ma rhaid i’m hiechyd ddod gyntaf a do’n i’n methu dioddef y boen rhagor.”
Llygadu Ulster
Mae’r bachwr wedi llygadu’r gêm gartref yn erbyn Ulster fel dyddiad posib i ddychwelyd i chwarae yw rhanbarth.
“Mae’r ymarfer wedi mynd yn dda ac rwy wedi symud ymlaen o weithio ar y beic i sesiynau rhedeg a chorfforol ,ac yn amlwg rwy wedi bod yn gwneud lot o waith yn cryfhau’r gwddw.”
Gobaith Rees yw bod yn holliach cyn gêm gyntaf y Scarlets yn Ewrop yn erbyn Castres Olympique ar y 12 Tachwedd.
Fe fydd y Scarlets yn herio Caerlŷr ar Barc y Scarlets am 6pm yfory, yng nghystadleuaeth Cwpan LV.