Warren Gatland
Mae Leigh Halfpenny wedi canmol gallu hyfforddwr Cymru Warren Gatland i sbotio talent ifanc.

Bydd y cefnwr 22 oed yn un o wyth chwarewr sy’n iau na 23 mlwydd oed yn nhîm Cymru i wynebu Ffrainc yfory.

 Mae hyn yn glôd enfawr i Gatland am ddangos ffydd yn ei chwaraewyr ifanc, sydd wedi gwneud yn aruthrol yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.

 ‘‘Mae Warren yn gallu gweld talent,” meddai Halfpenny.

“Unwaith mae’n gweld ac yn ffyddiog mewn chwaraewr mae’n dod ag ef i fewn.

’’Mae hyn wedi dod a dimensiwn newydd i’r tîm, ac yn talu ei ffordd.

 ’’Rwy’n gobeithio ein bod yn ysbrydoli chwaraewyr ifanc.  Fe ddaethon nhw i fewn i’r garfan a dangos eu gallu i berfformio ar cae rhyngwladol.  Fe ddaethon nhw â rhywbeth ffres i fewn i’r tîm a chreu awyrgylch gwych o fewn y garfan’’.

Seicoleg yn bwysig

 Mae yna un perfformiwr oddi ar y cae sy’n allweddol i ymgyrch Cymru sef Andrew McCann, seicolegydd y garfan.

 ’’Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gydag ef, ac mae yna lawer o agweddau gwahanol’’, meddai Leigh Halfpenny.

 ’’Yn gynnar yn yr wythnos fe fydd sesiwn sydd yn eithaf hamddenol sydd yn gwneud byd o lês, ond pan fydd y gêm yn nesáu byddaf yn mynd trwy’r rôl nes ei fod yn glir yn fy mhen.

’’Os byddaf yn nerfus, mae’n gwneud i mi ymlacio.  Mae angen bod yn hunanfeddiannol, ac yna rydym yn gwybod bod angen i ni ganolbwyntio am yr wythnos nesaf.”