Mae clwb rygbi Wigan wedi cyhoeddi na fydd Shaun Edwards yn dychwelyd i’r clwb yn 2020 yn brif hyfforddwr.
Mae disgwyl y bydd Shaun Edwards yn aros yn rhan o dîm hyfforddi Cymru o dan arweiniad Wayne Pivac, er iddo gytuno ar lafar fis Awst y llynedd y byddai’n ymuno â Wigan.
“Ar ôl tipyn o feddwl a phwyllo, fe hoffwn gadarnhau fy sefyllfa,” meddai hyfforddwr cynorthwyol presennol Cymru.
“Fydda i ddim yn cymryd swydd y prif hyfforddwr yn Wigan, a’r rheswm am hynny yw nad ydw i wedi paratoi digon.”
Ychwanega Shaun Edwards, a chwaraeodd i Wigan rhwng 1983 a 1997, fod angen hyfforddwr ar y clwb rygbi’r gynghrair sydd â “mwy o brofiad” nag ef.
“Mae’r cynnig gan Wigan a dderbyniais yn ddiweddar yn well o lawer na’r holl gynigion rydw i wedi eu derbyn cyn belled,” meddai wedyn.
“Ond i fi, nid yw hyn ynglŷn ag arian, ond ynglŷn â Wigan Warriors yn cael y dyn gorau ar gyfer y swydd ac, ar y funud, nid y fi yw hwnnw.”
Trafferth i Wigan
Mae penderfyniad Shaun Edwards yn gadael Wigan heb brif hyfforddwr ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Roedd cyn-chwaraewr arall, sef Adrian Lam, wedi cymryd yr awenau ar gytundeb o flwyddyn yn dilyn ymadawiad Shaun Wane ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Yn ôl y cadeirydd, Ian Lenagan, mae’r clwb am “dynnu llinell” o dan yr holl helynt ynghylch cytundeb Shaun Edwards, ac edrych tuag at gadarnhau y strwythur hyfforddi ar gyfer 2020.
“Fe hoffwn ddiolch i’n holl gefnogwyr am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn sefyllfa anodd,” meddai.
“Fe allwn bellach ganolbwyntio ar adeiladau seiliau cadarn er mwyn gyrru’r clwb hyfryd hwn ymlaen.
“Fe fyddwn ni’n cyhoeddi ein cynlluniau yn y man.”