Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, yn apelio yn erbyn cyhuddiad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol wrth wneud sylwadau ar ôl gem Chelsea yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd ei gyhuddo ar ôl dweud mai dyfarnwyr Uwch Gynghrair Lloegr yw’r “gwaethaf yn y byd” ar ôl i’r Adar Gleision golli yn erbyn Chelsea mewn gêm ddramatig ar Fawrth 31.
Roedd Caerdydd ar y blaen tan i César Azilicueta benio’r bêl i’r rhwyd gyda phum munud yn weddill o’r gêm.
Doedd rheolwr Caerdydd ddim yn fodlon gyda’r canlyniad oherwydd iddi ymddangos bod amddiffynnwr Chelsea yn camsefyll.
“Erbyn hyn heddiw, mae’r cyfan yn ymwneud â phwy yw’r reffarï a phwy sy’n dal y fflag, yn hytrach na phwy rydych chi’n ei chwarae,” meddai Neil Warnock.
“Dyma’r gynghrair orau yn y byd gyda’r swyddogion gwaethaf ar hyn o bryd.
“Yn gandryll” unwaith eto
Roedd Neil Warnock yn gandryll eto dros y penwythnos ar ôl i’r dyfarnwr Mike Dean wyrdroi penderfyniad i roi cic o’r smotyn i’r Adar Gleision yn erbyn Burnley ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 14.
Dywed wedyn ei fod am gadw’n dawel am y peth y tro yma, er iddo weld yn flin iawn yn ystod y gêm.
“Dw i jyst yn trio peidio cael dirwy,” meddai Neil Warnock wedi’r helynt ddoe, “dw i wedi cael cyngor, dw i’n gandryll dan y wyneb.”
Mae’r canlyniadau yn erbyn Chelsea a Burnley yn golygu bod Caerdydd bum pwynt islaw Brighton ar drothwy eu gêm nos Fawrth (Ebrill 16).