Cheetahs 14–31 Gweilch
Roedd buddugoliaeth bwynt bonws i’r Gweilch yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn wrth iddynt herio’r Cheetahs yn Stadiwm Free State, Bloomfontein.
Sicrhaodd y Cymry’r pwyntiau llawn yn Ne Affrica gyda chais Cory Allen chwarter awr wedi’r egwyl.
Bu rhaid aros tan chwarter awr cyn yr egwyl am gais cyntaf y gêm, y Gweilch yn lledu’r bêl yn effeithiol a Dan Evans yn gorffen ar y chwith.
Croesodd Olly Cracknell am ail yr ymwelwyr bum munud yn ddiweddarach ac roedd ganddynt fantais iach ar yr hanner, 0-14 wrth droi.
Caeodd y Cheetahs y bwlch ar ddechrau’r ail hanner gyda chais Dries Swanepoel ond ymatebodd y Gweilch yn syth gyda chais Justin Tipuric, y blaensgellwr yn meddwl yn chwim ac yn sgorio wedi cic gosb gyflym.
Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel pan groesodd Allen am bedwerydd y Cymry gan olygu mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Shaun Venter i’r tîm cartref.
Mae’r canlyniad yn gadael y Gweilch yn bumed yn adran A y Pro 14 gyda thair gêm ar ôl.
.
Cheetahs
Ceisiau: Dries Swanepoel 42’, Shaun Venter 72’
Trosiadau: Tiaan Schoeman 43’, 73’
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Evans 26’, Olly Cracknell 30’, Justin Tipuric 44’, Cory Allen 55’
Trosiadau: Luke Price 27’, 31’, Sam Davies 45’, 56’
Cic Gosb: Sam Davies 68’
Cerdyn Melyn: Adam Beard 72’