Mae’r byd rygbi wedi talu teyrnged i Billy Mainwaring, un o fawrion Clwb Rygbi Aberafan, a fu farw’r wythnos ddiwethaf yn 78 oed yn dilyn salwch.
Cafodd ei eni yn nhref Taibach, gan gynrychioli’r tîm rygbi lleol cyn ymuno ag Aberafan.
Aeth yn ei flaen i gynrychioli Cymru chwe gwaith yn yr ail reng.
Roedd yn gweithio yn y gweithfeydd dur lleol, ac roedd e a’i fam, Mrs Mainwaring, yr un mor adnabyddus â’i gilydd yng Nghlwb Rygbi Aberafan, a hithau’n gefnogwr brwd o’r tîm a’i mab.
Bydd ei angladd yn cael ei gynnal ym Margam ddydd Mercher (Ebrill 10).
Cynhaliodd clybiau Taibach ac Aberafan funud o dawelwch er cof amdano cyn eu gemau ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 6).
Gyrfa
Treuliodd Billy Mainwaring 18 o flynyddoedd gyda Chlwb Rygbi Aberafan ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Chlwb Rygbi Taibach.
Cafodd ei anfon o’r cae yn y gêm yn erbyn Gwyddelod Llundain yn 1964, gan fethu’r cyfle i chwarae mewn treialon ar gyfer tîm Cymru ar ôl cael gwaharddiad.
Ond penderfynodd Undeb Rygbi Cymru maes o law nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Cynrychiolodd dîm cymysg Aberafan a Chastell-nedd yn erbyn Awstralia yn 1966, De Affrica yn 1969 a Seland Newydd yn 1972.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1967, ac yntau’n un o chwe chwaraewr newydd yn y tîm.
Ar ôl cynrychioli’r Barbariaid y flwyddyn honno, cafodd ei enwi’n gapten ar dîm Aberafan yn 1969-70 a 1970-71.
Chwaraeodd e yn rownd derfynol Cwpan Her Cymru, wrth golli i Lanelli yn 1974 a 1975, ac fe gyhoeddodd ei fod yn ymddeol yn 1976-77 wrth i Aberafan ddathlu eu canmlwyddiant.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn ar ddiwedd y tymor hwnnw, a’i berswadio i ddychwelyd am gyfnod y tymor canlynol, ac yntau erbyn hynny’n 36 oed.