Munster 45–21 Gleision
Colli a fu hanes y Gleision wrth iddynt ymweld â Pharc Thomond yn Limerick i wynebu Munster yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen gyda hanner awr i fynd ond gorffennodd y Gwyddelod yn gryf gan ennill yn gymharol gyffordds yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Aeth y Gleision ar y blaen wedi dim ond saith munud, Tomos Williams yn gorffen yn wych wedi bylchiad gwreiddiol Ray Lee-lo.
Ymatebodd Munster gyda chic gosb o droed Tyler Bleyndaal cyn sgorio eu cais cyntaf wedi deunaw munud, Chris Farrell yn hyrddio drosodd wrth fôn y pyst.
Cais tebyg iawn a oedd ail y tîm cartref wedi hanner awr, hyrddiad arall o un medr, gan y clo Jean Kleyn y tro hwn.
Munster, heb os, a oedd yn rheoli’r gêm ond roedd olwyr y Gleision yn edrych yn beryglus pan yn cael y cyfle. Ac yn wir, roedd y Cymry’n ôl o fewn sgôr ar yr egwyl diolch i orffeniad gwych Aled Summerhill ar yr asgell dde.
Ail Hanner
Aeth y Gleision ar y blaen yn gynnar yn ail hanner wrth i Tomos Williams a Lee-lo gyfuno unwaith eto, y canolwr yn gorffen wedi meddwl chwim y mewnwr yn cymryd cic gosb gyflym.
Wnaeth hi ddim aros felly’n hir cyn i’r eilydd, CJ Stander, groesi am gais o bum medr i adfer mantais ei dîm. A dim ond y Gwyddelod a oedd ynddi wedi hynny, yn croesi am dri chais arall yn chwarter olaf y gêm.
Sicrhaodd Connor Murray’r pwynt bonws ar yr awr cyn i Andrew Conway groesi am gais syml ar yr asgell dde bum munud yn ddiweddarach.
Llithrodd Sam Arnold drosodd yn y gornel wedi bylchiad JJ Arnold am chweched cais Munster yn y munudau olaf i roi gwedd gyfforddus iawn i’r sgôr terfynol, 45-21.
Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn bedwerydd yn nhabl adran A gyda thair gêm yn weddill.
.
Munster
Ceisiau: Chris Farrell 18’, Jean Kleyn 30’, CJ Stander 50’, Connor Murray 60’, Andrew Conway 66’, Sam Arnold 76’
Trosiadau: Tyler Bleyndaal 18’, 31’, 51’, 61’, 67’, JJ Hnrahan 77’
Cic Gosb: Tyler Bleyndaal 12’
.
Gleision
Ceisiau: Tomos Williams 7’, Aled Sumerhill 38’, Rey Lee-Lo 46’
Trosiadau: Gareth Anscombe 8’, 40’ 48’