Fe fydd tîm rygbi Cymru yn gobeithio bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad olaf Warren Gatland yn gorffen yn yr un modd â’r gyntaf – gyda thlws y Gamp Lawn.
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dod i ben heddiw.
2008 oedd y tro diwethaf i Gymru gipio’r Gamp Lawn, a dim ond Iwerddon sydd rhyngddyn nhw â’r gamp honno unwaith eto eleni.
Bydd y prif hyfforddwr yn camu o’i swydd ar ôl Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni, ac fe fyddai’r ail Gamp Lawn i Gymru – a thrydydd Warren Gatland – yn record iddo ymhlith hyfforddwr yn y gystadleuaeth.
Iwerddon oedd y tîm diwethaf i guro Cymru, sydd wedi ennill 13 o gemau o’r bron. Daeth y golled honno yn ystod y Chwe Gwlad y tymor diwethaf.
Pe bai Alun Wyn Jones yn arwain ei wlad i’r Gamp Lawn, fe fyddai’n ymuno â chriw dethol o chwaraewyr sydd wedi cyflawni hynny dair gwaith – criw sy’n cynnwys Gethin Jenkins, Adam Jones a Ryan Jones.
Gallai Iwerddon a Lloegr ennill y gystadleuaeth o hyd, pe bai Cymru’n colli.
Y to
Mae disgwyl i’r to fod ar agor ar gyfer y gêm, er bod rhybudd am dywydd garw yn ystod y dydd.
Iwerddon sydd wedi gofyn bod y to yn aros ar agor, yn groes i ddymuniadau Cymru.
Yn ôl y rheolau, rhaid i’r ddau dîm gytuno cyn bod modd cau’r to.