Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y bydd ei dîm yn barod i herio Manchester City yn Stadiwm Liberty heno (5.20), er mai tridiau yn unig gawson nhw i baratoi ar gyfer y gêm fawr.
Collodd yr Elyrch o 3-0 yn West Brom nos Fercher, bedair awr ar hugain yn unig ar ôl i Manchester City chwalu Schalke o 7-0 yng Nghynghrair y Pencampwyr. Roedd Graham Potter yno’n gwylio’r gêm cyn teithio i’r Hawthorns.
“Roedd gyda ni West Brom y diwrnod canlynol. Roedd hi’n 6-0 pan adawais i,” meddai, cyn ychwanegu bod y prinder amser i baratoi at gêm Manchester City “braidd yn anffodus”.
“Ond mae’n rhan o’r her o chwarae’n ddomestig yng ngwledydd Prydain.
“Byddai wedi bod yn braf cael rhagor o amser, ond fe fyddwn ni’n barod. Ond pan aeth y chweched gôl i mewn nos Fawrth, wnes i feddwl y gallen ni elwa o gael wythnos arall i baratoi!”
Ffenest siop i’r chwaraewyr?
Wrth i griw ifanc yr Elyrch ymgyfarwyddo â bywyd yn y Bencampwriaeth, fe fydd y gêm yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr yn cynnig cyfle cyntaf i nifer o’r chwaraewyr wynebu gwrthwynebwyr ar lefel mor uchel.
Ond mae Graham Potter yn dadlau fod pob gêm, boed yn erbyn timau’r Bencampwriaeth neu’r Uwch Gynghrair, yn gyfle i’r chwaraewyr ddangos eu doniau.
“Dylech chi fod yn meddwl bob gêm rydych chi’n chwarae ynddi eich bod chi’n amlygu eich hun ac yn dangos yr hyn y gallwch chi ei wneud,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n wych i’r chwaraewyr gan fod llawer ohonyn nhw yn gwneud eu ffordd yn y byd yma, yn ystod eu tymor cyntaf lle mae cryn dipyn o botensial iddyn nhw, felly mae’n gêm dda i gael mesur lle’r ydych chi arni.”
Llinyn mesur i’r chwaraewyr
Yn ôl Graham Potter, fe fydd herio tîm gorau’r byd yn gyfle i’r Elyrch fesur eu cynnydd y tymor hwn, ar ôl gostwng o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf a gorfod ail-adeiladu’r garfan.
“Ry’n ni’n chwarae yn y Bencampwriaeth ac mae’n braf cael chwarae yn erbyn tîm o’r Uwch Gynghrair – un o’r goreuon,” meddai.
“Fe gewch chi syniad beth sydd angen i chi ei wneud a pha mor agos ydych chi [at ddychwelyd i’r lefel uchaf], ac mae’r chwaraewyr yn cael syniad o le maen nhw’n gallu cyrraedd hefyd.
“Ry’n ni wedi gallu ennill gemau ac mewn gemau cwpan, rhaid i chi allu ennill ac rydyn ni wedi gwneud hynny.
“Ond mae’n broses o hyd. Ry’n ni wedi gwneud rhai pethau’n dda ac mae ein perfformiadau wedi bod yn gwella.
Yn eironig, er ein bod ni wedi colli’r ddwy gêm ddiwethaf, mae’r perfformiadau wedi bod cystal ag unrhyw un.
“Ein her nesaf yw troi’r perfformiadau hynny a’u gwella nhw er mwyn cael canlyniadau gwell, oherwydd dydyn ni ddim wedi cyrraedd lefel gyson eto.”
Yn erbyn y ffactorau
Gyda’r sylwebyddion yn rhoi cyn lleied o obaith i Abertawe o ennill, does dim pwysau mawr ar dîm Graham Potter, ac fe allai hynny eu helpu, yn ôl y rheolwr.
“Mae’n brofiad ac yn her hyfryd,” meddai. “Allwch chi ddim ond cryfhau o’i gael e, hyd y gwelaf i.
“Does neb o’r tu allan yn disgwyl i ni ennill. Mae pawb fwy neu lai yn sôn am Manchester City yn y rownd gyn-derfynol ac mae hynny oherwydd, o edrych yn oddrychol, fod rhaid i chi ddweud hynny.”
Hon, meddai, yw gêm fwyaf ei yrfa fel rheolwr.
“Yn sicr, oherwydd Manchester City yw’r tîm mwyaf anodd dw i wedi ei herio, o dipyn o beth, fyddwn i’n meddwl.
“Os enillwn ni, byddwn ni yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr ac yn wynebu popeth a ddaw yn sgil hynny.
“Bydd hi’n gêm wych ac yn gêm rydych chi am fod yn rhan ohoni a phrofi eich hun ynddi, a cheisio ei mwynhau hi.
“Ond rhaid i ni fod yn ni ein hunain yn erbyn y tîm gorau yn y byd.”
Elwa o beidio â bod yn ffefrynnau
Manchester City yw’r ffefrynnau clir i ennill y gêm ond fe allai hynny fod o fantais i’r Elyrch, a fydd yn gallu chwarae heb bwysau, meddai Graham Potter.
“Rhaid i chi ddeall eich rôl wrth chwarae mewn unrhyw gêm. Dw i wedi cael y profiad o wynebu disgwyliad i ennill, a rhaid i chi ymdopi â hynny.
“Ond rhaid i ni ddeall yma mai ni yw’r arwyr posib, a rhaid deall sut mae defnyddio hynny yn y ffordd orau fel ei fod o fudd i ni.
“Mae’n sefyllfa ychydig yn wahanol ond weithio, fel yn erbyn Gillingham mae disgwyl i chi ennill mewn stadiwm hanner gwag yn erbyn tîm sydd newydd guro Caerdydd, sy’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
“Ond nawr, yn erbyn Manchester City, os ydych chi’n troi i fyny a disgwyl pasio’r bêl o gwmpas ac ennill, gallwch chi fynd i drafferthion yn gyflym iawn.”
Gobeithio am y gorau
Beth, felly, yw gobeithion Graham Potter?
“Gobeithio y bydd hi’n dorf dda, tywydd erchyll a bod yr elfennau o’n plaid ni. Rhaid i ni gael popeth [o’u plaid].
“Ry’n ni eisiau i’r Liberty fod yn rocio, ond rhaid i ni roi rhywbeth i’r cefnogwyr ei gefnogi.
“Fydd hynny ddim yn hawdd yn erbyn Manchester City ond dyna sydd angen i ni geisio ei wneud.”