Fe fydd tîm rygbi Cymru’n cipio’r Gamp Lawn pe baen nhw’n curo Iwerddon yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf (Mawrth 16).

Ac mae hynny’n debygol iawn os oes modd credu damcaniaeth Warren Gatland, y prif hyfforddwr, fod Cymru wedi anghofio sut i golli, ar ôl 13 buddugoliaeth o’r bron.

Ond mae’n bosib y gallai Lloegr neu Iwerddon ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad pe bai Cymru’n colli.

Y ffyrdd y gall Cymru fod yn bencampwyr

Mae gan Gymru 16 o bwyntiau, tra bod gan Loegr 15 ac Iwerddon 14.

Bydd Cymru’n ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers saith mlynedd os ydyn nhw’n curo Iwerddon.

Os yw Cymru’n ennill a Lloegr yn curo’r Alban, ac felly yn gorffen yn gyfartal ar 20 pwynt yr un – sy’n bosibl o ystyried pwyntiau bonws – byddai Cymru’n ennill y Bencampwriaeth drwy gael triphwynt ychwanegol am ennill y Gamp Lawn.

Pe bai Cymru ac Iwerddon yn gorffen yn gyfartal, a’r Alban yn curo Lloegr, byddai Cymru’n ennill y Bencampwriaeth ond nid y Gamp Lawn.

Lloegr neu Iwerddon

Pe na bai un o’r uchod yn digwydd, mae’n bosib y gallai Lloegr neu Iwerddon gael eu coroni’n bencampwyr.

Byddai gêm gyfartal rhwng Cymru ac Iwerddon, a buddugoliaeth i Loegr dros yr Alban, yn gweld Lloegr yn ennill y Bencampwriaeth.

Byddan nhw hefyd yn bencampwyr pe baen nhw’n curo’r Alban ac Iwerddon yn curo Cymru.

Ond pe bai Iwerddon yn curo Cymru, a’r Alban yn curo Lloegr, yna Iwerddon fyddai’r pencampwyr.

Mae’r ras yn poethi!