Mae Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA) yn galw am ymchwiliad i dri digwyddiad yn ymwneud â diogelwch chwaraewyr dros y penwythnos.
Nos Wener (Mawrth 8), neidiodd cefnogwr Hibernian i’r cae a mynd wyneb-yn-wyneb â James Tavernier, capten Rangers, cyn i stiwardiaid ei dywys i ffwrdd.
Ddydd Sul (Mawrth 10), ymosododd cefnogwr Birmingham ar Jack Grealish, capten Aston Villa, yn ystod y gêm ddarbi fawr. Cafodd Paul Mitchell, 27, ei arestio yn dilyn y digwyddiad a’i gyhuddo o ymosod.
Mae’r awdurdodau’n dweud y bydd yn cael gwaharddiad am oes rhag mynd i St. Andrew’s, stadiwm Birmingham.
Oriau’n ddiweddarach, rhedodd cefnogwr Arsenal at Chris Smalling, amddiffynnwr Man U, a’i wthio. Bydd yntau hefyd yn cael ei wahardd am oes gan Arsenal.
Ymchwiliad
Cyn y trydydd digwyddiad rhwng Man U ac Arsenal, roedd y PFA yn galw am ymchwiliad i’r ymosodiad ar Jack Grealish.
Maen nhw’n dweud eu bod yn gofidio am y nifer cynyddol o ddigwyddiadau lle gall cefnogwyr gael mynediad i’r cae yn ystod gêm, a’r posibilrwydd o ddychwelyd i’r hen ddyddiau pan oedd digwyddiadau o’r fath yn fwy cyffredin.
Mae Birmingham wedi ymddiheuro am yr ymosodiad ar Jack Grealish.
Yn y cyfamser, fe fu’n rhaid i Heddlu West Midlands siarad â stiward, yn dilyn honiadau ei fod e wedi cicio neu wthio Jack Grealish wrth iddo ddathlu gôl ar ôl yr ymosodiad cyntaf arno.
Dywedodd Aston Villa fod y cefnogwr wedi “croesi’r llinell” yn dilyn yr ymosodiad gwreiddiol.
Mae Arsenal hefyd wedi beirniadu’r ymosodiad ar Chris Smalling, ac wedi ymddiheuro wrtho fe a Man U.
Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi beirniadu’r digwyddiadau.
Dydy Uwch Gynghrair Lloegr ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.