Mae rhanbarth rygbi’r Gweilch yn wfftio fod ganddyn nhw broblemau ariannol, ac mai hynny arweiniodd at y posibilrwydd o uno gyda’r Scarlets.
Daw datganiad y cadeirydd Rob Davies ar ddiwedd wythnos gythryblus i’r rhanbarth, pan ddigwyddodd eu ffrae fawr gerbron y cyhoedd. Arweiniodd hynny at ymddiswyddiad eu cadeirydd Mike James.
Gweithred gyntaf y cadeirydd newydd yr wythnos ddiwethaf oedd beirniadu’r modd yr oedd Undeb Rygbi Cymru wedi ymdrin â’r sefyllfa.
Fe fu sïon ers dros flwyddyn fod y Gweilch mewn trafferthion ariannol, ond mae Rob Davies yn wfftio hynny’n llwyr mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi neithiwr (nos Sul, Mawrth 10).
“Nid yn unig y mae’r naratif diflas fod y Gweilch rywsut yn wynebu her ariannol yn gwbl ffals, ond yn bropaganda maleisus gan y sawl y byddai tranc y Gweilch yn gyfleustra gwyrdroëdig iddyn nhw,” meddai.
“Mae’r Gweilch wedi’u hariannu’n ddigonol ar gyfer y dyfodol agos, a byddwn yn parhau i geisio model dosbarthu mwy ecwitïol sydd, ar hyn o bryd, yn gwyro tuag at feini prawf gwrthrychol sydd â’r gallu i gael ei fanipiwleiddio mewn modd anghywir, yn hytrach na fformiwla oddrychol yn seiliedig ar fetrics a llwyddiant y mae modd ei gyfiawnhau heb ragfarn.”