Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad ar chwaraewr pêl-droed yn ystod gêm yn Birmingham.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Jack Grealish, chwaraewr canol cae a chapten Aston Villa, yn ystod hanner cynta’r gêm ddarbi rhwng Birmingham City ac Aston Villa.

Daeth y dyn i’r cae a tharo Jack Grealish yn ei wyneb.

Cafodd ei atal gan stiward a’i roi yng ngofal yr heddlu.

Mae wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod ac o fynd ar y cae.

Mae Clwb Pêl-droed Birmingham wedi beirniadu’r dyn, ac mae disgwyl y byddan nhw’n ei wahardd am oes ac yn ymddiheuro wrth Jack Grealish a Chlwb Pêl-droed Aston Villa.

Mae’r heddlu hefyd yn dweud eu bod nhw wedi siarad â stiward am ymosodiad honedig, ond nad ydyn nhw wedi ei arestio hyd yn hyn.

Yn ôl adroddiadau, fe giciodd e Jack Grealish wrth iddo ddathlu gôl fuddugol Aston Villa.