Scarlets 43–21 Cheetahs
Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth bwynt bonws wrth iddynt groesawu’r Cheetahs i Lanelli yn y Guinness Pro14 brynhawn Sul.
Sgoriodd y tîm cartref chwe chais mewn buddugoliaeth gyfforddus ar Barc y Scarlets.
Dechreuodd y Scarlets ar dân gan sgorio pedwar cais yn y chwarter agoriadol. Roedd Uzair Cassiem, Johnny McNicholl a Kieron Fonotia eisoes wedi tirio cyn i Josh Macleod sicrhau’r pwynt bonws wedi deunaw munud yn unig!
Cafodd yr ymwelwyr o Dde Affrica gyfnod gwell wedi hynny gyda chais yr un i Benhard Janse Van Resburg a Sibhale Maxwane yn eu rhoi yn ôl yn y gêm, 28-14 y sgôr wrth droi.
Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i’r cyntaf, gyda chais i’r Cymry wrth i sgarmes symudol effeithiol arwain at sgôr i’r prop, Wyn Jones.
Cadwodd cais Gerhardus Oliver y Cheetahs o fewn cyrraedd cyn i Leigh Halfpenny gicio cic gosb i roi tair sgôr o fwlch rhwng y timau.
Ac roedd y fuddugoliaeth yn berffaith ddiogel ddeuddeg munud o’r dwiedd, Paul Asquith yn croesi wedi rhyng-gipiad McNicholl.
Pwyntiau llawn i Fois y Sosban felly ond maent yn aros yn bumed yn adran B er gwaethaf hynny. Er, dim ond pum pwynt sydd yn gwahanu’r pedwar tîm rhwng yr ail a’r pumed safle.
.
Scarlets
Ceisiau: Uzair Cassiem 3’, Johnny McNicholl 9’, Kieron Fonotia 13’, Josh Macleod 19’, Wyn Jones 43’, Paul Asquith 69’
Trosiadau: Dan Jones 4’, Leigh Halfpenny 10’, 14’, 20’, 44’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 56’
Cerdyn Melyn: Johnny McNicholl 23’
.
Cheetahs
Ceisiau: Benhard Janse Van Resburg 29’, Sibhale Maxwane 39’, Gerhardus Oliver 52’
Trosiadau: Tiaan Schoeman 30’, 40’, 53’