Nigel Davies
Treviso 20 Scarlets 10, Stadio di Monigo
Doedd pethau ddim yn argoeli’n rhy dda i’r Scarlets cyn i’r gêm hon gychwyn hyd yn oed gan eu bod wedi colli eu tair gêm ddiwethaf yn y RaboDirect Pro12, ac wedi colli yn erbyn Treviso yn yr Eidal y tymor diwethaf. Ac yn wir, siwrnai seuthug i’r Eidal oedd hon heddiw i’r Scarlets hefyd wrth i’r tîm cartref drechu’r Cymry o 20-10.
Yn gynharach yn yr wythnos roedd Nigel Davies wedi rhybuddio’i dîm am bwysigrwydd cadw disgyblaeth ond wrandawodd ei chwaraewyr ddim arno wrth i’r blaenwr, Rhys Thomas weld cerdyn melyn yn yr hanner cartref. A gyda’r Scarlets lawr i 14 dyn manteisiodd Treviso yn llawn gyda triphwynt o droed Kris Burton a chais gan Ludovico Nitoglia. Ciciodd Dan Newton gic gosb i’r Scarlets ond aeth Treviso i mewn i’r ystafell newid ar yr egwyl ar y blaen o 10-3.
Efallai fod llawer o olwyr ifanc cyffrous y Scarlets yn cynrychioli Cymru yn Seland Newydd ar hyn o bryd ond profodd Liam Williams fod un ohonynt o leiaf ar ôl yn hemisffer y gogledd wrth iddo sgorio ei gais proffesiynol cyntaf i ddod â’r rhanbarth o Gymru yn ôl i’r gêm gyda’r sgôr yn gyfartal.
Ond doedd dim buddugoliaeth i fod i’r cochion na phwynt bonws hyd yn oed wrth i Treviso ychwanegu deg pwynt arall cyn diwedd y gêm diolch i gais gan yr asgellwr o Awstralia Brendan Williams a phum pwynt arall o droed Kris Burton.
Taith hir yn ôl i’r Scarlets felly wrth i’r problemau gynyddu i’r tîm o’r gorllewin. Yn ôl cyn flaenasgellwr y rhanbarth, Dafydd Jones “mae’n amser anodd dros ben ym Mharc y Scarlets i’r garfan i gyd ar hyn o bryd.” Mae Treviso ar y llaw arall yn codi i hanner uchaf y Pro 12.