Darlington 2 Casnewydd 0
Dim ond Caerfaddon sydd rhwng Casnewydd a gwaelod y Blue Square heno wedi iddynt golli unwaith eto heddiw oddi cartref yn erbyn Darlington o 2-0.
Mewn amseroedd anodd mae gofyn i gapten ddangos esiampl ond methu a gwneud hynny a wnaeth capten Casnewydd, Gary Warren wrth iddo droseddu yn erbyn Tadhg Purcell yn y bocs. Cic o’r smotyn yn ôl y dyfarnwr a Mark Bridge-Wilkinson yn sgorio gôl gyntaf y gêm wedi hanner awr.
Mae’n debyg y byddai rheolwr dros dro Casnewydd, Lee Harrison wedi hoffi cael ei chwaraewyr yn yr ystafell newid dim ond un gôl ar ei hôl hi er mwyn cael y cyfle i adfer hyder ei dîm cyn yr ail hanner. Ond methu a dal a wnaeth Casnewydd wrth i Purcell ddyblu mantais y tîm cartref ym munud olaf yr hanner.
Roedd y gôl honno yn ergyd galed i Gasnewydd ac roedd y gêm fwy neu lai drosodd. Llwyddodd Scott Rogers i orfodi arbediad gan Ole Soderberg, golgeidwad Darlington ond ddaeth yna ddim mwy o goliau i’r naill dîm na’r llall a gorffennodd y gêm yn 2-0 o blaid Darlington.
Dyma ganlyniad siomedig i Lee Harrison, yn enwedig gan gofio nad oedd Darlington eu hunain wedi ennill ers saith gêm. Ond dal ati fydd rhaid iddynt ac mae gwaith caled o flaen pwy bynnag fydd ddigon dewr i gymryd y swydd.