Glasgow 32-13 Y Gleision

Perfformiad siomedig, di-ddychymyg a gafwyd gan y Prifddinasyddion heno yn eu gêm gartref yn erbyn Glasgow yn y RaboDirect Pro12 ac roedd yr Albanwyr yn llwyr haeddu eu buddugoliaeth a’u pwynt bonws anisgwyl a gawsant gyda buddugoliaeth o 32-13.

Mewnwr Glasgow sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm wedi 13 munud yn dilyn amddiffyn gwan gan y Gleision mewn sgarmes rydd ar y linell 22 metr. Trosodd Duncan Weir i’w gwneud hi’n 7-0. Ond doedd hi ddim yn hir nes i’r Gleision daro’n ôl gyda chic gosb gan Ceri Sweeny.

Aeth y tîm o Gaerdydd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda chais gorau’r gêm. Cafwyd cic letraws dda gan Sweeny o ganol cae tuag at y canolwr Gavin Evans ar yr asgell chwith, daliodd yntau’r bêl a’i phasio’n ôl i mewn i’r canolwr arall Casey Laulala. Cais taclus ond Sweeny’n methu’r trosiad.

Ond gwaethygu wnaeth pethau i’r Gleision wedi hynny wrth i Glasgow symud yn ôl ar y blaen ychydig funudau’n ddiweddarach gyda’u hail gais. Amddiffyn gwan y Gleision oedd ar fai unwaith eto, ar fôn y sgrym osod y tro hwn ond rhaid canmol rhediad 40 metr y blaenasgellwr James Eddie at y llinell. Llwyddodd Weir gyda’r trosiad cyn ychwanegu triphwynt arall gyda cic olaf yr hanner yn dilyn troseddu parhaol mewn cyfres o sgrymiau 5 metr gan y Gleision. Anfonwyd Lewis Jones i’r gell gosb o ganlyniad hefyd.

Er i’r Gleision gadw llechen lân tra’r oeddynt i lawr i 14 dyn buan iawn wedi hynny y sgoriodd Glasgow eu trydydd cais. Camgymeriad arall achosodd hwnnw wrth i bas wael Deiniol Jones gael ei rhyngipio gan Tommy Seymor.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Gleison pan sgoriodd Michael Paterson wedi i Sweeny daro cic i lawr ar linell Glasgow. Ond methu’r trosiad wnaeth Sweeny cyn i Weir lwyddo gyda cic gosb i roi’r Albanwyr 12 pwynt ar y blaen gyda 10 munud yn weddill.

Felly arhosodd hi tan y cymal olaf un o chwarae pan aeth Stuart Hogg drosodd yn y gornel i sicrhau pwynt bonws i’w dîm a gwaethygu embaras y Gleision wrth iddi orffen yn 32 – 13.