Jamie Roberts - dau gais
Cymru 66 Fiji 0

Fe lwyddodd Cymru i gladdu hunllef Fiji a mynd trwodd yn hawdd i rownd wyth ola’ Cwpan y Byd.

Roedd yna bedwar cais yn yr hanner cynta’ a phump yn yr ail wrth i olwyr Cymru dorri trwodd yn bendant dro ar ôl tro.

Yr unig bryder i Warren Gatland a’i dîm hyfforddi fydd ychydig ansicrwydd yn y lein a thuedd Cymru i golli’r bêl yn y dacl a’r sgarmes.

Ond, er fod Fiji wedi cael mwy o feddiant a thir yn yr hanner awr cynta’, fe lifodd y ceisiau’n gyson, gan ddechrau ar ôl pum munud.

Ceisiau’r hanner cynta’

Gyda’r maswr Rhys Priestland ac wedyn Stephen Jones yn cicio’n berffaith, doedd yna ddim peryg o ailadrodd y chwalfa ddi-drefn yn Ffrainc bedair blynedd yn ôl.

Roedd y cais cynta’n arwydd o’r hyn oedd i ddod, gyda’r canolwr, Jamie Roberts, yn torri i mewn yn hawdd trwy nifer o daclau.

Roedd gan Roberts ran yn yr ail ychydig tros ddeng munud yn ddiweddarach, gyda phas gyflym i’r asgellwr George North ac yntau’n creu lle i’r canolwr arall, Scott Williams, guro’i ddyn ar y tu fas.

Ar ôl cic gosb i Priestland, fe ddaeth y trydydd cais i North ar yr ochr dywyll cyn i fylchiad yr asgellwr greu’r pedwerydd i’r capten, Sam Warburton, a hwnnw’n sicrhau pwynt bonws a lle Cymru yn y chwarteri.

Roedd hi’n 31-0 ar yr egwyl.

Ceisiau’r ail hanner

Fe fu’n rhaid aros deng munud am y cais nesa’ – un o rai gorau’r noson – gyda North eto’n torri ac yn cydchwarae gyda Priestland i roi’r cyfle i Jamie Roberts yn agos at y lein.

Yr eilydd o fachwr, Lloyd Burns, a gafodd y nesa’ gan gario tri drosodd gydag e a’r prop Gethin Jenkins a greodd y seithfed gyda chic hir trwodd. Fe amserodd yr asgellwr, Leigh Halfpenny, bethau’n well na’r amddiffyn a chodi’r bêl rydd i goresi.

Gyda Lloyd Williams ar y maes yn lle Phillips, fe gafodd y mewnwr bach ei ail gais rhyngwladol wrth godi o fôn y sgrym ar ôl dwy gic gosb dan y pyst i Gymru.

Hyd yn oed wrth amddiffyn yn galed ar y diwedd, roedd Cymru’n benderfynol a Fiji’n gollwng y bêl bob tro.

A’r cloc wedi troi’n goch, fe lwyddodd Scott Williams i gipio’r bêl mewn sgarmes a rhoi’r cyfle i Jonathan Davies dorri trwy daclau i groesi’r 60.

Roedd ef ymlaen yn lle Jamie Roberts – un o’r ychydig bryderon yw’r anaf i’w ysgwydd e ac anaf mwy difrifol i’r ail reng, Bradley Davies, a’r bachwr, Huw Bennett, a adawodd cyn yr hanner.