Arwr yr hanner - George North
Cymru 31 Fiji 0
Fe aeth Cymru trwodd i rownd wyth ola’ Cwpan y Byd ar ôl 39 munud – dyna pryd y cafodd y capten Sam Warburton y pedwerydd cais a’r pwynt bonws.
Roedd hynny’n golygu eu bod un pwynt ar y blaen yn y tabl i Samoa ac yn sicr o’u lle yn erbyn Iwerddon neu Awstralia.
Er fod Cymru weithiau wedi colli’r meddiant a chwarae fymryn yn ffrantig, roedden nhw hefyd wedi sgorio’n glinigol pan ddaeth y cyfleoedd.
Cais 1: Fe ddaeth y cais cynta’ ar ôl dim ond pum munud ar ôl i’r canolwr, Scott Williams, ddwyn y bêl i roi cyfle i Jamie Roberts dorri i mewn yn hawdd trwy dacl neu ddwy a sgorio’i bwyntiau cynta’ yn y gystadleuaeth.
Er fod Fiji’n cael mwy o dir a meddiant, ac ambell gyfnod da, fe fethon nhw eu hunig gyfle am bwyntiau o gic gosb ac fe drawodd Cymru eto ar ôl 16 munud.
Cais 2: Er iddyn nhw wneud smonach o lein, fe ddaliodd y cefnwr Lee Byrne gic uchel, cyn i bas gyflym Jamie Roberts fynd i George North ac yntau’n creu lle i Scott Williams guro’i ddyn ar y tu fas a chroesi.
Gyda Priestland yn cicio’n gywir, roedd Cymru 14-0 ar y blaen. Ac fe gafodd y maswr gic gosb hefyd i ychwanegu tri arall.
Cais 3: Ychydig wedi’r hanner awr, fe ddaeth y trydydd cais ar yr ochr dywyll gyda chydweithio da rhwng olwyr a blaenwyr. Er fod amheuaeth fod o leia’ un bas fymryn ymlaen, fe ddaeth hi i North ac fe dorrodd yntau trwodd o 20 llath.
Cais 4: Ac, yna, gyda munud ar ôl o’r hanner, fe ddaeth y cais tyngedfennol. North eto’n codi pêl rydd, torri tacl neu ddwy a thynnu amddiffynwyr wrth ryddhau’r bêl yn addas iawn i’r capten Warburton a Priestland eto’n cicio’r pwyntiau.