Lee Williams - crewr y cais
Treviso 20  Scarlets 10

Fe gollodd y Scarlets eu pedwaredd gêm o bump wrth i Treviso barhau gyda rhediad da ar ôl ennill yn Glasgow.

Er mai’r Cymry a sgoriodd gynta’ trwy gic gosb Dan Newton, fe gymerodd yr Eidalwyr fantais ar ôl i Rhys Thomas gael ei anfon i’r gell gosb,

Fe gafodd Kris Burton gic gosb, cyn i Treviso gael eu cais cynta’ a throsiad i’w gwneud hi’n 10-3 ar yr hanner.

Er fod y Scarlets wedi taro’n ôl ar unwaith wrth i Lee Willams greu cais i’r Williams arall, Liam, a rhoi cyfle i Newton drosi, fe gafodd y gêm ei setlo gan ryng-gipiad Brendan Williams, a sgoriodd y cais tyngedfennol.