Y Seintiau'n dathlu (o wefan y clwb)
Seintiau Newydd 3 Aberystwyth 2
Caerfyrddin 3 Airbus 1
Y Drenewydd 2 Lido Afan 1
Prestatyn 0 Llanelli 2
Y Seintiau Newydd sy’n ôl ar frig Uwch Gynghair Cymru ar ôl ennill eu seithfed gêm o’r bron.
Felly, dim ond am noson y cafodd Castell Nedd fod ar y brig ar ôl curo Port Talbot neithiwr.
Ac, yng ngêm ola’r prynhawn, fe gadwodd Llanelli’r pwysau ar y ddau, gyda goliau Chris Venables a Rhys Griffiths yn rhoi triphwynt iddyn nhw ym Mhrestatyn.
Y Seintiau dan bwysau
Fe ddaeth y Seintiau dan bwysau gan Aberystwyth a’r tîm glan môr a aeth ar y blaen yn annisgwyl ar ôl 13 munud trwy Wyn Thomas.
Tair gôl o fewn wyth munud ar ddwy ochr yr egwyl a newidiodd bethau – Alex Darlington yn cael y gynta’ i’r Seintiau cyn i Greg Draper a Craig Jones greu dwy gôl i’w gilydd.
Er bod Aberystwyth wedi sgorio gyda chwarter awr ar ôl, fe lwyddodd y Seintiau i ddal eu tir.
Airbus ar y gwaelod
Ar ben arall y tabl, Airbus sydd ar y gwaelod ar ôl colli o 3-1 i Gaerfyrddin – er iddyn nhwthau hefyd fynd ar y blaen trwy Ryan Edwards.
Fe sgoriodd Adam Worton gôl trwy ei rwyd ei hun i ddod â thîm Tomi Morgan yn gyfartal, cyn i Nick Hardy eu rhoi ar y blaen a Tim Hicks yn setlo pethau o’r smotyn.
Fe aeth Lido Afan ar y blaen hefyd cyn colli i’r tîm arall a oedd ar y gwaelod, Y Drenewydd – Andy Hill a Shane Sutton yn sgorio iddyn nhw.