Mae barnwr wedi gwrthod y cais diweddaraf i ddirwyn Clwb Rygbi Castell-nedd i ben.
Daeth y dyfarniad ar ddiwedd gwrandawiad yn Llundain, wedi i Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddweud bod y clwb wedi talu dyledion.
Ddechrau’r mis, dywedodd Mike Price, ysgrifennydd y clwb, y bu trafferthion ariannol ond fod y sefyllfa’n gwella’n raddol ar ôl i’r perchennog Mike Cuddy werthu’r clwb i Jardine Norton.
Fe adawodd y prif hyfforddwr Simon King ei swydd cyn y Nadolig.
Hanes y clwb
Cafodd Clwb Rygbi Castell-nedd ei sefydlu yn 1871, ac fe enillon nhw’r gynghrair ddeg gwaith rhwng 1909 a 1990.
Ond daeth tro ar fyd yn yr oes broffesiynol.
Roedd y clwb yn un o’r rhai a gafodd eu taro waethaf gan ddyfodiad oes y rhanbarthau, wrth uno ag Abertawe i greu’r Gweilch.