Bryan Hughes yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn dilyn ymddiswyddiad Graham Barrow ar ôl deufis yn unig yn y swydd.

Mae’r cyn-chwaraewr canol cae, a gynrychiolodd y clwb mewn 97 o gemau rhwng 1994 ac 1997, wedi llofnodi cytundeb tair blynedd a hanner.

Roedd e’n aelod gwerthfawr o’r tîm a gyrhaeddodd rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr yn 1996-97.

Mae ganddo fe brofiad o 21 o dymhorau fel chwaraewr proffesiynol, gan gynnwys sawl cyfnod yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda Birmingham, Charlton a Hull.

Fe fu’n hyfforddi’n fwyaf diweddar yn Academi Clwb Pêl-droed Scarborough Athletic.

“Mae Bryan yn hyfforddwr gwych a chanddo gyswllt cryf gyda’r clwb,” meddai’r cyfarwyddwyr mewn datganiad. “Mae ei benodiad yn arwydd o’n hawydd i ddychwelyd i’r model sydd wedi’n gweld ni’n gwneud cynnydd ar y cae a dod yn gystadleuol yn y gynghrair.

“Bydd Bryan yn canolbwyntio’n llwyr ar adeiladu momentwm yn y 15 gêm olaf y tymor hwn, wrth i ni anelu am ddiweddglo llwyddiannus i’r tymor.”

Mae Wrecsam bedwar pwynt oddi ar y brig ar hyn o bryd.