Dan Biggar - cicio llwyddiannus
Y Gweilch 26 Connacht 21
Y Gweilch sydd ar frig cynghrair y RaboDirect Pro 12 wedi buddugoliaeth fain yn erbyn Connacht yn Stadiwm Liberty.
Manteisiodd y Gweilch ar gamgymeriad Niall O’Connnor i sgorio cais cyntaf y gêm wedi pum munud o chwarae.
Cic wael y maswr a roddodd y meddiant i’r Gweilch a lledwyd y bêl yn gyflym er mwyn rhoi lle i’r cefnwr, Barry Davies, dirio yn y gornel. Llwyddodd Biggar gyda’r trosiad.
Ar ôl i Biggar daro’r postyn gyda chic gosb, Connacht oedd y nesaf i sgorio wrth i’w cefnwr hwythau, Gavin Duffy sgorio yn y gornel cyn a O’Connor yn gwneud y sgôr yn gyfartal gyda’r trosiad wedi 25 munud.
Ond gorffennodd y Gweilch yr hanner yn gryf a mynd i mewn ar yr egwyl ddeg pwynt ar y blaen diolch i gic gosb lwyddiannus gan Biggar ac yna trosgais lwcus braidd gan Hanno Dirksen ar ôl i’r bêl adlamu’n garedig iawn iddo oddi ar ysgwydd Tipuric.
Dan bwysau
Roedd digon o amser ar ôl i O’Connor gicio cic gosb i Connacht ond roedd y Gweilch yn gymharol gyfforddus ar hanner amser.
Doedd pethau ddim mor gyfforddus yn fuan yn yr ail hanner ac roedd y Gweilch yn lwcus fod O’Connor wedi methu gyda chynnig arall at y pyst.
Yna hanner ffordd trwy’r hanner aeth Stefanno Penne i’w boced i ddangos cerdyn melyn i Ian Gough. Serch hynny, y tîm cartref sgoriodd nesaf diolch i gic gosb hir gan Biggar.
Connacht sgoriodd wedyn gydag ail gais Duffy ond methu oedd hanes O’Connor gyda’r trosiad.
Daeth y cais hwnnw â’r ymwelwyr o fewn 5 pwynt i’r Gweilch a dyna oedd bwlch rhwng y timau ar y chwiban olaf hefyd er fod Biggar ac O’Connor wedi ychwanegu chwe phwynt yr un.
Perfformiad cymysglyd gan y Gweilch ond maen nhw ar frig y tabl.
Gwilym Dwyfor Parry