Tovey - yr arwr
Dreigiau 22  Ulster 9

Cicio cyson Jason Tovey oedd yn bennaf gyfrifol am y fuddugoliaeth hon i’r Dreigiau heno. Ciciodd y maswr ifanc bump cic gosb wrth i’r tîm cartref brofi’n drech na’r ymwelwyr o Ogledd Iwerddon.

Serch hynny, y gwŷr o Ulster aeth ar y blaen wedi 5 munud diolch i gic gosb gan eu maswr ifanc hwythau, Paddy Jackson.

Ond fu dim rhaid i gefnogwyr swnllyd y Dreigiau aros yn hir cyn i Tovey unioni’r sgôr wedi 7 munud. Ychwanegodd ei ail hanner ffordd trwy’r hanner i’w gwneud hi’n 6-3 o blaid y Dreigiau.

Hon oedd gêm gyntaf asgellwr newydd y Dreigiau o Dde Affrica, Tonderai Chavhanga, ac yn wir cafodd fedydd hynod addawol ar Rodney Parade wrth i Ulster ei chael hi’n anodd iawn ar adegau i ddelio â’i gyflymder trydanol.

Yna wedi 23 munud, roedd Chavhanga yn nghanol digwyddiad pwysica’r gêm. Tacl uchel oedd yr unig ffordd y gallai Nevin Spence, canolwr Ulster, atal y gwibiwr a gan mai honno oedd ei ail yn y gêm, fe gafodd ei anfon i’r gell gallio am 10 munud.

Yr unig gais

Cymerodd y Dreigiau fantais llawn o’r dyn ychwanegol wrth i’r canolwr Tom Riley groesi’r gwyngalch lai na munud wedi ymadawiad Spence.

Ychwanegodd Tovey y trosiad cyn llwyddo gyda chic gosb arall ychydig eiliadau cyn i bymthegfed dyn Ulster ddychwelyd i’r cae.

Ychydig funudau o boptu’r gic honno fe fethodd Jackson gydag un cynnig at y pyst a llwyddo gyda’r llall. Ond roedd hi’n addas mai Tovey oedd i gael y gair olaf am yr hanner cyntaf a llwyddodd gyda chic gosb arall funud cyn y chwiban wrth i’r Dreigiau adael y cae ar y blaen o 19-6.

Yr ail hanner – diflas

Roedd mantais y Dreigiau yn un gyfforddus wedi saith munud o’r ail hanner wrth i Tovey ychwanegu triphwynt arall gyda’i chweched gic llwyddiannus allan o chwech.

Llwyddodd Jackson gyda’i drydedd cic gosb ychydig funudau yn ddiweddarch a dyna ddiwedd y sgorio mewn hanner awr olaf diflas a di-fflach.

Yr unig ddigwyddiadau o bwys oedd methiant cyntaf Jason Tovey wrth anelu at y pyst wedi 64 munud, a thacl wych y maswr wrth iddo atal cais sicr gan Ian Whitten i Ulster.

Perfformiad gwych gan Tovey felly a’r Dreigiau yn llawn haeddu eu buddugoliaeth.

Gwilym Dwyfor Parry