Gareth Williams
Mae bachwr rhyngwladol y Gleision wedi gorfod ymddeol ar ôl anafu ei wddf.
Fe gafodd Gareth Williams ei anafu mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Caerfaddon dros yr haf.
Mae meddygon wedi ei gynghori i roi’r gorau i’r gêm gan y bydd risg uchel o anaf parhaol petai’n dal ati – a dyw triniaeth ddim yn opsiwn, meddai.
“Byddai’r driniaeth yn un fawr, ac yn ôl y doctoriaid does dim gwarant y byddai’n gweithio,” eglura Gareth Williams.
“Petawn i’n mynd nôl i chwarae byddai peryg o ddifrod parhaol.”
“Mae’n ormod o risg, yn enwedig yn safle dwi’n chwarae ynddo sef y rheng flaen,” ychwanegodd.
Mae Williams yn chwarae i’r Gleision ers symud o Ben-y-bont yn 2003. Bu hefyd yn chwarae i UWIC a Phontypridd cyn hynny.
Ar ôl cynrychioli timau ieuenctid Cymru a’r tîm A, fe enillodd Williams ei gap llawn cyntaf i Gymru yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2003.
Fe enillodd naw cap i Gymru – y diwethaf yn erbyn yr Alban yn Chwefror 2010.