Sam Warburton yw Capten Cymru
Mae Warren Gatland wedi gwneud newidiadau sylweddol i’r tîm faeddodd Namibia 81-7, ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji ddydd Sul.
Bydd y canolwr Scott Williams, y cefnwr Lee Byrne, y prop Gethin Jenkins a’r blaenwyr Ryan Jones, Sam Warburton y capten a Toby Faletau yn cadw eu llefydd yn y tîm.
Ond mi fydd yr asgellwr anferth George North, y gwibiwr Leigh Halfpenny a’r canolwr cryf Jamie Roberts yn dychwelyd ymysg yr olwyr ar y cae.
Daw Rhys Priestland yn ôl i safle’r maswr yn bartner i Mike Phillips y mewnwr.
Ymysg y pac bydd y bachwr Huw Bennett, y prop Adam Jones a’r clo Luke Charteris yn cychwyn y gêm.
Er nad ydyn nhw’n ffit ar gyfer Ffiji, y disgwyl yw y bydd Shane Williams, James Hook a Dan Lydiate ar gael ar gyfer yr ornest debygol rhwng Cymru ac Iwerddon yn rownd yr wyth olaf wythnos i yfory yn Wellington.
“Mae’n bosib y gallai Shane [Williams] fod wedi chwarae [yn erbyn Ffiji] tasan ni wedi ei wthio,” meddai Gatland.
“Mae Alun-Wyn Jones a Jonathan Davies yn ddau o’r chwaraewr sydd wedi cychwyn pob gêm hyd yma, ac felly rydan ni wedi newid rhyw fymryn yn yr ail-reng a’r canol er mwyn cadw pethau’n ffresh, ond mae’r ddau ohonyn nhw ar y fainc os bydd eu hangen nhw.”
Sam Warburton a Toby Faletau yw’r unig ddau yn y garfan o 30 fydd wedi chwarae pob un o gemau grŵp Cymru yn Seland Newydd.
Y garfan i herio Ffiji:
Olwyr: Lee Byrne, George North, Scott Williams, Jamie Roberts,Leigh Halfpenny, Rhys Priestland, Mike Phillips,
Blaenwyr: Gethin Jenkins, Huw Bennett, Adam Jones, Bradley Davies, Luke Charteris, Ryan Jones, Sam Warburton (c), Toby Faletau
Eilyddion: Lloyd Burns, Paul James, Alun Wyn Jones, Andy Powell, Lloyd Williams, Stephen Jones, Jonathan Davies