Gary Speed
Mae Gary Speed wedi enwi ei garfan i wynebu’r Swistir a Bwlgaria yng ngemau olaf grŵp rhagbrofol Ewro 2012.
Dyma’r tro cyntaf i’r chwaraewr canol cae David Edwards gael ei enwi yng ngharfan Speed.
Mae David Vaughan a Craig Bellamy yn dychwelyd i’r garfan wedi eu gwaharddiad rhag chwarae yn erbyn y Saeson ddechrau’r mis.
Ond mae’r amddiffynnwr Danny Gabiddon, yn ogystal â Rob Earnshaw yn absennol oherwydd anafiadau.
Fe fydd Cymru’n herio’r Swistir yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar y 7 Hydref cyn teithio i brif ddinas Bwlgaria, Sofia ar yr 11 Hydref.
Er bod Cymru ar waelod eu grŵp, maent wedi codi 27 safle yn rhestr detholion FIFA, ers curo Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf.
Carfan Cymru
Wayne Hennessey – Wolves
Boaz Myhill – West Brom (ar fenthyg gyda Birmingham)
Darcy Blake – Caerdydd
Danny Collins – Stoke (ar fenthyg gyda Ipswich)
James Collins – Aston Villa
Chris Gunter – Nottingham Forest
Adam Matthews – Celtic
Neil Taylor – Abertawe
Ashley Williams – Abertawe
Joe Allen – Abertawe
Gareth Bale – Tottenham Hotspur
Jack Collison – West Ham United
Andrew Crofts – Norwich
David Edwards – Wolves
Andy King – Caerlŷr
Joe Ledley – Celtic
Aaron Ramsey – Arsenal
Hal Robson-Kanu – Reading
David Vaughan – Sunderland
Craig Bellamy – Lerpwl
Simon Church – Reading
Steve Morison – Norwich
Sam Vokes – Wolves