Lee Byrne
Mae Lee Byrne wedi dweud fod anaf James Hook yn gyfle iddo hawlio’r crys rhif 15 yn nhîm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Dim ond 57 munud chwaraeodd Lee Byrne yn y gemau cyn dechrau’r bencampwriaeth ac ers hynny mae wedi gwylio o’r ystlys.

Dechreuodd yn erbyn yr Ariannin cyn cael ei eilyddio, a dechreuodd James Hook yn safle’r cefnwr yn y gemau yn erbyn De Affrica a Samoa.

Pan adawodd Hook y maes yn erbyn Samoa gydag anaf i’w ysgwydd camodd Leigh Halfpenny i’r adwy a chreu’r cais i ennill y gêm.

Ond fe ddaw cyfle Lee Byrne, a fydd yn ymuno â Clermont Auvergne ar ôl y bencampwriaeth, yn erbyn Namibia yfory.

“Mae’n braf cael y cyfle i chwarae unwaith eto,” meddai Lee Byrne.

“Y mwyaf o amser ar y cae ydw i yn ei gael, y gorau yr ydw i’n mynd i chwarae. Mae anaf ‘Hooky’ yn gyfle mawr i fi, ac mae’n rhaid i mi wneud y mwyaf ohono.

“Rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r sgwad, ond dyw hyfforddi yn ddiddiwedd ddim yr un peth a bod yn rhan o’r tîm ar y cae. Mae’n wych fy mod i wedi cael fy newis.”

Er bod Lee Byrne , sy’n 31 oed, eisoes wedi ennill 44 cap, mae ymysg naw chwaraewr fydd yn cymryd rhan mewn gêm yng Nghwpan Rygbi’r Byd am y tro cyntaf yfory.

“Mae’n gyfle i mi hawlio safle’r cefnwr cyn y gêm yr wythnos nesaf. Rydw i wedi bod yn disgwyl am y cyfle,” meddai Lee Byrne.

“Rydw i eisiau dangos beth sydd gen i, cyn y gêm yn erbyn Ffiji. Mae’r bois chwaraeodd De Affrica a Samoa eisoes wedi gwneud hynny, a dydyn ni ddim am eu siomi nhw.

“Os nad ydyn ni’n gwneud ein gorau glas mae’n bosib ein bod ni wedi chwarae ein gêm olaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Dyna beth sydd yn y fantol.

“Yn y gorffennol rydyn ni wedi ei chael hi’n anodd maeddu timoedd y dylen ni fod wedi eu curo’n hawdd. Ond mae gan y sgwad yma’r gallu i roi cweir i Namibia.

“Dydyn ni ddim am wastraffu’r gwaith caled y mae gweddill y sgwad wedi ei wneud.”