Stephen Jones
Mae Stephen Jones wedi dweud ei fod yn falch o fod yn ôl yn nhîm Cymru ar ôl cyfnod “rhwystredig” ar yr ystlys gydag anaf i’w goes.
Fe fydd y maswr yn ennill cap rhif 101 yn erbyn Namibia am 7.30am (amser Cymru) bore yfory.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd, yn bennaf am nad ydw i wedi gallu bod yn rhan o bethau gyda gweddill y tîm,” meddai Stephen Jones.
“Ond mae’r ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn wych wrth i fi gael cyfle i hyfforddi â’r sgwad a chymryd rhan yn yr amserlen arferol.
“Roedd yr anaf yn rhwystredig iawn. Fe ddigwyddodd y peth pum munud cyn gêm Lloegr ac roedd hynny’n ergyd.
“Yna roeddwn i wedi hyfforddi am wythnos cyn gêm yr Ariannin, ac fe ddioddefais i anaf arall wrth gicio’r bêl olaf wrth hyfforddi cyn y gêm.
“Ond roedd rhaglen adferiad y gweithwyr meddygol yn wych. Roedden nhw wedi gwneud yn siwr fod y broses mor drylwyr â phosib er mwyn sicrhau fy mod i’n holliach.”
Dywedodd nad oedd ei frwdfrydedd i gymryd rhan yng Nghwpan Rygbi’r Byd wedi pylu dros y blynyddoedd.
“Dyma lle y mae unrhyw chwaraewr gwerth ei halen eisiau bod,” meddai. “Beth bynnag dy oed di rwyt ti eisiau bod yn rhan ohono.
“Rydyn ni wedi dechrau’r gryf iawn. Roedd yn rhwystredig iawn peidio ag ennill y gêm gyntaf yn erbyn De Affrica ond rydyn ni’n chwarae’n dda ac mae’n bwysig cadw’r momentwm i fynd.
“Mae yna deimlad da yn y sgwad. Mae pawb wedi gweithio’n galed a’r gobaith yw y byddwn ni’n cael ein gwobr am hynny.”