Parc y Scarlets
Llwyddodd Isa Nacewa â pum cic gosb wrth i Leinster ddifetha dathliadau’r Scarlets, oedd yn chwarae eu 5,000fed gêm.

Sgoriodd y Scarlets unig gais y gêm yn yr ail hanner drwy Lee Williams, mewn gornest llawn camgymeriadau yng nghynghrair y RaboDirect Pro12.

Ond Leinster oedd y tîm gorau ar ôl gwneud tri newid yn dilyn colli yn erbyn Glasgow’r wythnos diwethaf.

Fe aeth Leinster 6 -3 ar y blaen yn yr hanner cyntaf ar ôl 40 munud digon diflas a llawn camgymeriadau, â chwiban y dyfarnwr John Lacey yn gyfeiliant i’r cyfan.

Doedd dim sgôr nes 17 munud pan sgoriodd maswr y Scarlets, Dan Newton, gic gosb am gamsefyll, ar ôl methu ymgais arall pum munud ynghynt.

Ar ôl 21 munud sgoriodd Nacwea ei gic gosb gyntaf ar ôl i’r Scarlets droseddu yn y ryc. Daeth cic gosb arall ar ôl i’r Scarlets gael eu dal yn camsefyll toc cyn hanner amser.

Daeth y gêm yn fyw yn fuan wedi ail ddechrau chwarae wrth i Nacewa fynd ar garlam i lawr y cae a chael ei wobrwyo â chic gosb arall.

Methodd Newton gic cosb pum munud yn ddiweddarach ond yn sydyn sgoriodd Williams gais i’r Scarlets ar ôl ymosodiad gan y mewnwr Ruki Tipuna. Llwyddodd Newton â’r trosiad.

Ond roedd y Scarlets ar y blaen am bedair munud yn unig, cyn i Nacewa lwyddo â dwy gic gosb arall ar ôl 51 a 54 munud.

Mae’r Scarlets bellach wedi colli tair o’u pedair gêm gyntaf ac fe fyddwn nhw’n edrych ymlaen at groesawu ambell chwaraewr yn ôl o Gwpan Rygbi’r Byd fis nesaf.