Brendan Rodgers
Mae hyfforddwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi amddiffyn Fernando Torres ar ôl i’r ymosodwr gael ei anfon o’r cae â cherdyn coch.
Enillodd Chelsea y gêm gartref 4 – 1 er gwaethaf colli’r ymosodwr ar ôl tacl beryglus ganddo ar Mark Gower.
Roedd Torres newydd sgorio ei gôl ei hun, ei drydydd i’r clwb, rhwng dwy gôl arall gan Ramires.
“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn chwaraewr maleisus,” meddai Brendan Rodgers.
“Mae’n siŵr ei fod yn credu fod y bêl yno i’w hennill ac eisiau brwydro am bopeth.”
Chwaraeodd Abertawe yn well na’r tîm cartref am y 15 munud cyntaf, a sgoriodd Ashley Williams gôl yn yr 86fed munud drwy beniad o gic rydd Mark Gower.
Ond dywedodd Brendan Rodgers nad oedd yn mynd i gwyno am y sgôr.
“A bod yn deg, fe enillodd y tîm gorau. Dydw i ddim am eistedd fan hyn a dweud ein bod ni’n haeddu ennill y gêm,” meddai.
“Ond roeddwn i’n falch iawn o’r chwaraewyr unwaith eto. Roedd dechrau’r gêm yn wych, ac yn y 10 munud cyntaf fe ddangoson ni ein bod ni’n hyderus.
“Cafodd y chwaraewyr eu taflu oddi ar eu hechel gan y gôl gyntaf. Ond yn yr ail hanner roedden ni’n frwdfrydig eto ac eisiau ennill y bêl.
“Rydyn ni ychydig yn siomedig am ein bod ni wedi caniatáu iddyn nhw sgorio cymaint o goliau. Ond pob clod i Chelsea.
“Mae angen iddyn nhw ennill y gemau yma, ac rydyn ni’n ennill profiad o fod yn rhan o’r cwbwl.”