Roedd sgrym Cymru’n bennaf gyfrifol am y fuddugoliaeth, wrth i’r blaenwyr gael y gorau ar eu gwrthwynebwyr am ran helaeth o’r gêm.
Ar ôl i’r blaenwyr osod y llwyfan, daeth y ceisiau i olwyr Cymru,wrth i Robyn Wilkins ac Alecs Donovan gyfuno i roi cais i Jasmine Joyce yn y gornel.
Toc cyn yr egwyl, ymosododd y blaenwyr unwaith eto i roi cyfle i Alecs Donovan groesi, ond cafodd ei hatal ar y llinell.
Wrth i Gymru barhau i ymosod, cafodd asgellwr De Affrica, Nosiphiwo Goda ei hanfon i’r cell cosb.
O’r sgrym a ddilynodd ymdrechion y prop Amy Evans i groesi am gais, croesodd yr wythwr Sioned Harries yn rymus am ail gais i roi blaenoriaeth o 12-0 i Gymru ar yr egwyl.
Ar ôl i’r naill dîm a’r llall fethu cyfleoedd i groesi am geisiau, cafodd Sioned Harries ei hanfon i’r cell cosb am arafu’r bêl.
Croesodd De Affrica am gais cysur wedyn, cyn i Carys Phillips sicrhau’r fuddugoliaeth gyda chais oddi ar lein i Gymru.