Fe fydd un o gynghorwyr sir Conwy yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf yr wythnos nesaf, er mwyn codi arian at Eisteddfod Genedlaethol 2019.

Mae Aaron Wynne yn cynrychioli ward Llanrwst, lle bydd y brifwyl yn gwneud ei chartref yn ystod wythnos gyntaf mis Awst y flwyddyn nesaf.

“Wedi misoedd o ymarfer, dw i’n hyderus y gallaf gwblhau’r ras mewn amser call,” meddai. “Mae’r ras, a gynhelir yn flynyddol, yn dechrau yng Nghonwy gan redeg i Landudno ac o gwmpas y Gogarth, cyn rhedeg yn ôl am Gastell Conwy, 13 o filltiroedd i gyd.”

Mae’r gwaith o godi £320,000 at yr Eisteddfod yn mynd rhagddo ac mae Aaron Wynne yn dweud ei fod am godi arian ati “mewn ffordd mor ymarferol â phosib”.

“Mae dod â’r Eisteddfod i Lanrwst am fod yn hwb sylweddol i fusnesau lleol yn y dref a’r ardal, a dw i’n edrych ymlaen at weld Dyffryn Conwy a holl sir Conwy yn dod at ei gilydd i ddathlu doniau diwylliannol mwyaf Cymru yma yn fy nhref enedigol”.

Codi arian

Mae Aaron Wynne yn codi arian drwy wefan Justgiving, ac mae’n dweud y byddai’n “ddiolchgar am unrhyw gyfraniad, bach neu fawr”.

“Bydd pob cyfraniad yn mynd at yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl yn 2019.”