Connacht 33–12 Dreigiau
Parhau y mae tymor siomedig y Dreigiau yn y Guinness Pro14 wedi iddynt golli’n drwm yn erbyn Connacht ar Faes Chwarae Galway nos Sadwrn.
Cafwyd dechrau addawol gan y Cymry ond buan iawn y trodd pethau’n sur wrth i’r Gwyddelod ddechrau rheoli.
Wedi chwarter cyntaf digon cyfartal, daeth trobwynt y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan wastraffodd Dafydd Howells gyfle euraidd i groesi am gais cyntaf y gêm i’r Dreigiau, yn methu dal ei afael ym mhas Taine Basham.
O fewn deg munud, roedd yr ymwelwyr o Gymru 19 pwynt ar ei hôl hi wedi tri chais cyflym gan Connacht.
Daeth y cyntaf i James Cannon wedi sgarmes symudol effeithiol a’r ail i Darragh Leader yn y gornel dde wedi dwylo da gan yr olwyr. Roedd amddiffyn y Dreigiau ar chwâl erbyn y trydydd wrth i Colby Faingaa orffen ymosodiad a ddechreuodd yn ddwfn yn hanner Connacht.
Aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i Tom McCartney sicrhau’r pwynt bonws i’r Gwyddelod gyda synudiad olaf yr hanner, 26-0 y sgôr wrth droi.
Tynnodd y tîm cartref eu traed oddi ar y sbardun yn yr ail hanner a rhoddwyd y llygedyn lleiaf o obaith i’r Dreigiau pan ochr-gamodd Hallam Amos, a oedd yn chwarae fel canolwr, i groesi am gais i’r Cymry.
Dawnsiodd Thomas Farrell drosodd am bumed cais Connacht wedi hynny cyn i Basham sgorio ail gais cysur i’r Dreigiau yn yr eiliadau olaf, 33-12 y sgôr teryfnol.
.
Connacht
Ceisiau: James Cannon 24’, Darragh Leader 27’, Colby Faingaa 30’, Tom McCartney 40’, Thomas Farrell 69’
Trosiadau: David Horwitz 25’, 31’, 40’, Jack Carty 70’
.
Dreigiau
Ceisiau: Hallam Amos 57’, Taine Basham 80’
Trosiad: Jason Tovey 80’