Wrecsam 3–1 Gateshead
Cododd Wrecsam i frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth dros Gateshead ar y Cae Ras brynhawn Sadrwrn.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi deunaw munud pan wyrodd cynnig Paul Rutherford i gefn y rhwyd oddi ar Fraser Kerr.
Dyblodd Brad Walker fantais y Dreigiau hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i Luke Armstrong dynnu un yn ôl i Gateshead.
Rhoddodd hynny lygedyn o obaith i’r tîm cartref ond diflannodd hwnnw pan rwydodd Rekeil Pyke drydedd Wrecsam i sicrhau’r tri phwynt yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Mae’r fuddugoliaeth, ynghyd â gêm gyfartal Salford yn Eastleigh, yn golygu bod tîm Sam Ricketts yn codi i frig y tabl.
.
Wrecsam
Tîm: Lainton, Roberts, Lawlor, Walker (Wright 86’), Jennings, Pearson, Summerfield, Young, Rutherford, Holroyd (Pyke 70’), Beavon (Deverdics 84’)
Goliau: Kerr [g.e.h.] 18’, Walker 68’, Pyke 90+2’
.
Gateshead
Tîm: Pears, Barrow, Williamson, Olley, Tinkler, Kerr, Hunter (Mellish 46’), White, Boden, Armstrong, Rigg (Molyneux 58’)
Gôl: Armstrong 88’
Cerdyn Melyn: Pears 35’
.
Torf: 4,421