Ridbet Oarade - y Dreigiau'n ennill gartref (o wefan y clwb)
Dreigiau 23  Aironi 14

Tri chynnig i’r Dreigiau oedd hi wrth i’r tîm o Gasnewydd ennill yn eu trydedd gêm – a’u cynta’ gartref – yn y Pro 12.

Ar un adeg yn yr ail hanner, fe ddaeth Aironi o fewn dau bwynt i’r Cymry ond fe enillodd y Dreigiau’n gyfforddus yn y diwedd yn Rodney Parade.

Roedden nhw wedi mynd ar y blaen gyda chais gan Tom Riley ar ôl dim ond pum munud a, gyda Jason Tovey’n ychwanegu’r trosiad a dwy gôl gosb, roedden nhw ar y blaen o 13-3 ar yr egwyl.

Ar ôl i Martyn Thomas fynd yn agos at ychwanegu cais arall, fe drawodd Aironi’n ôl gyda chic gosb a chais i Joshua Furno a’i gwneud hi’n 13-11.

Fe ddaeth y cais tyngedfennol yn fuan wedyn gan Andrew Coombs, gyda chic gosb yr un yn gorffen y sgorio.