Ar drothwy ffeinal Cynghrair y Pro14 yfory yn Nulyn, mae un o sylwebwyr rygbi mwya’ profiadol y gamp wedi bod yn pwyso a mesur gobeithion y Scarlets.
Maen nhw yn herio Leinster – pencampwyr Ewrop – ar eu tomen eu hunain, a hynny dan gysgod y gweir gawson nhw fis yn ôl yn rownd gynderfynol Cwpan Ewrop.
Bryd hynny fe wnaeth Leinster reoli’r gêm a chipio buddugoliaeth gyfforddus 38-16 yn Stadiwm yr Aviva, gyda’r Scarlets a’u cefnogwyr yn profi siom enbyd.
“Oni bai eu bod nhw yn gallu cryfhau ar ochr gorfforol eu gêm, o’r hyn welson ni [yn y rownd gynderfynol] yng Nghwpan Ewrop… mae hi’n mynd i fod yn anodd iddyn nhw,” meddai Huw Llywelyn Davies wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
“Oherwydd enillodd Leinster y frwydr gorfforol y diwrnod hwnnw, a hynny heb os. A hynny yn eu galluogi nhw wedyn i rwystro’r Scarlets rhag chwarae eu gêm agored arferol.”
Wedi dweud hynny, mae Huw Llywelyn Davies yn credu y gallai’r Gwyddelod redeg allan o stêm.
O drwch blewyn yn unig y mae Leinster wedi sicrhau eu dwy fuddugoliaeth olaf.
Fe drechon nhw Racing Metro 15-12 yn ffeinal Cwpan Ewrop, a sawl sylwebydd yn datgan mai’r tîm o Ffrainc oedd yn haeddu ennill ar y diwrnod.
A thros y penwythnos fe drechon nhw Munster 16-15 er mwyn cyrraedd ffeinal y Pro14.
“Mae Leinster wedi cael dwy gêm agos iawn tros y ddau benwythnos diwethaf,” meddai Huw Llywelyn Davies.
“Roedd ffeinal Cwpan Ewrop yn gêm gorfforol. Ac wedyn ennill o bwynt yn erbyn Munster.
“Felly roedd yna arwydd yn erbyn Munster, efalle efalle, bod y tymor yn mynd yn hir i Leinster… maen nhw wedi ennill y tlws pwysicaf.
“Ai felly dyna oedd uchafbwynt y tymor iddyn nhw? Roedd yna olwg dipyn bach yn flinedig arnyn nhw, efalle, yn erbyn Munster b’nawn Sadwrn.”
Leinster v Scarlets nos Sadwrn gyda’r gic gyntaf am chwech, a’r gêm yn fyw ar S4C a sylwebaeth lawn gan Huw Llywelyn Davies ar Radio Cymru.