Mae gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd nesaf cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn pylu, wrth iddyn nhw deithio i Gaergaint heddiw i herio Swydd Gaint.
Mae’r Cymry eisoes wedi colli eu tair gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, er iddyn nhw ddod yn agos iawn at guro Swydd Middlesex nos Fercher. Colli o ddau rediad wnaethon nhw bryd hynny.
Fe fydd rhaid i Forgannwg ennill pob gêm sy’n weddill, i bob pwrpas, er mwyn aros yn y gystadleuaeth. Swydd Gaint sydd ar waelod y grŵp, a Swydd Gaint un lle uwch eu pennau.
Wedi’i ychwanegu at y garfan y tro hwn mae’r batiwr ifanc Jeremy Lawlor, a darodd ganred i’r ail dîm yn erbyn Gwlad yr Haf ddechrau’r wythnos.
Gemau’r gorffennol
Roedd y gêm rhwng Morgannwg a Swydd Gaint ar gae San Helen y tymor diwethaf yn un gyffrous, wrth i’r ddau dîm daro 35 ergyd am chwech rhyngddyn nhw.
Tarodd Darren Steven 147 oddi ar 67 o belenni, gan gynnwys 14 chwech, wrth i’r ymwelwyr gwrso 357 am fuddugoliaeth. Cipiodd David Lloyd bum wiced – ei berfformiad pêl wen gorau erioed wrth i Forgannwg ennill o 15 o rediadau.
Morgannwg oedd yn fuddugol o dair wiced yn y cyfarfod diwethaf rhwng y ddwy sir yng Nghaergaint yn 2016, wrth i Colin Ingram daro 95 heb fod allan wrth gwrso 293 i ennill.
Dydy Swydd Gaint ddim wedi curo Morgannwg mewn gêm Rhestr A ers 2014.
Anafiadau
Fe fydd Morgannwg yn teithio i Gaergaint heb eu bowliwr cyflym Michael Hogan, sydd wedi anafu llinyn y gâr. Mae disgwyl iddo fe fod allan am hyd at dair wythnos.
Fe adawodd e’r cae yng nghanol y gêm yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton ddydd Sul, ac roedd angen rhedwr arno fe wrth fatio.
Mae Morgannwg yn gobeithio y bydd e’n dychwelyd cyn diwedd y gystadleuaeth.
Mae amheuon hefyd am y bowliwr cyflym arall, Marchant de Lange, sydd hefyd wedi anafu llinyn y gâr. Fe fydd e’n cael sgan i ddarganfod pa mor ddifrifol yw’r anaf.
Carfan Swydd Gaint: J Denly (capten), D Bell-Drummond, S Dickson, H Kuhn, Z Crawley, A Blake, D Stevens, C Haggett, A Rouse, M Henry, H Podmore, I Thomas, M Claydon, Imran Qayyum, A Riley
Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), N Selman, A Donald, S Marsh, D Lloyd, C Cooke, G Wagg, A Salter, T van der Gugten, L Carey, J Lawlor, R Smith, T Cullen