Mae trefnwyr triathlon yn Eryri yn gwrthod gwneud unrhyw sylw ‘am y tro’ ynglŷn â’r honiadau o dwyllo yn erbyn cyflwynwraig rhaglen frecwast y BBC, Louis Minchin.
Mae cyflwynwraig BBC Breakfast wedi ymddiheuro i gyd-gystadleuwraig yn ras Slateman Eryri yn dilyn honiadau ei bod wedi twyllo yn ystod cymal beicio’r digwyddiad yn Llanberis ddydd Sul diwethaf (Mai 20).
Yr honiad ydi fod y ddarlledwraig 49 oed wedi ceisio ennill mantais tros ei chyd-gystadleuwyr trwy reidio ei beic yng nghysgod beicwraig arall – Sam Gardiner – ac felly osgoi cael y gwynt i’w hwyneb.
‘Drafftio’ ydi’r term am y dull hwn o arbed egni, ac mae’n cael ei dderbyn mewn rhai rasys proffesiynol, ond mae wedi’i wahardd dan reolau cymdeithas Triathlon Prydain.
Yr ymateb
Ers i’r cyhuddiadau ddod i’r fei, mae Louise Minchin yn dweud ei bod wedi ymddiheuro i’w gwrthwynebydd, ond mae’n dal i wadu ei bod wedi gwneud unrhywbeth o’i le.
Yn ôl llefarydd ar ran cymdeithas Triathlon Prydain, mae adroddiad gan ei swyddogion technegol yn nodi bod yna “nifer o gosbau” wedi’u rhoi i gystadleuwyr yn ystod y digwyddiad yn Llanberis ar Fai 20, a bod y cosbau hynny’n cael eu hadlewyrchu yng nghanlyniadau’r ras.
Mae’n dweud ymhellach na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r cosbau hyn.